Llithren
Mae'r llithren yn strwythur sy'n ei gwneud hi'n bosibl i ddisgyn trwy lithro o un pwynt i'r llall. Gellir gwneud y strwythur hwn o wahanol ddeunyddiau (plastig, pren, metal), ac fe'i bwriedir ar gyfer gwahanol ddefnyddiau, megis chwarae, symud pobl ar frys neu gludo deunyddiau.
Enghraifft o'r canlynol | categori o gynhyrchion, tegan |
---|---|
Math | llithren, offer chwarae awyr agored |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae categori llithren yn cael eu defnyddio'n arbennig ar feysydd chwarae, parciau difyr ac yn fwy penodol mewn parciau dŵr.
Hanes
golyguCodwyd y sleid maes chwarae cyntaf cynharaf yn ardal chwarae "Neighbourhood House" Washington DC rywbryd rhwng sefydlu'r "Neighbourhood House" yn gynnar yn 1902 a chyhoeddi delwedd o'r llithren ar 1 Awst 1903 yn Evening Star (Washington DC ).[1][2] Agorodd y sleid bambŵ cyntaf yn Ynys Coney ar gyfer busnes ym mis Mai 1903, felly nid yw'n glir pa lithriad oedd gyntaf - sleid y maes chwarae neu sleid y parc diddan.[1]
Mathau o lithrenni
golyguCeir sawl gwahanol fath o lithren, nifer ohonynt wedi eu cynnwys fel reid ffair neu mewn parc cyhoeddus:
- Llithren Sbiral - gwelir y llithren droellog mewn parciau chwarae plant lle bydd y llithren wedi ei lapio o gwmpas polyn canolog i ffurfio troellog isaf sy'n ffurfio sglefrwr helter syml
- Llithren Ton - llithren sydd â thonnau yn ei siâp, gan achosi i'r person lithro i fyny ac i lawr ychydig wrth i ddisgyn
- Llithren Twib - llithren oddi fewn i diwb. Gall y llithren yn aml igam-ogami neu ystumio a bod a twmpenni ysgafn ynddi i greu mwy o antur
- Llithren Syth - llithren syml, wastad sydd ar ongl am lawr
- Llithren Parc Diddan - fel arfer ceis llithenni mwy gyda mwy o gwymp ac yn aml rhoi'r mat i'r defnyddiwr eistedd arno wrth deithio ar y llithren er mwyn lleihau ffrithiant ar gyfer cyflymder uwch ac i ddiogelu dillad
- Llithren Plymio - llithen sy'n gollwn y person ar ostyngiad fertigol neu bron yn fertigol (ceir enwau anturus fel 'death slide' a 'free fall slide' arnynt yn y parciau)
- Llithren Ddŵr - sleidiau llithrig a phoblogaidd iawn mewn parciau diddan ac hamdden. Bydd y llithren fel rheol yn gwagio fewn i bwll nofio neu pwll o ddŵr
- Dwmbwr-dambar - math o lithren sy'n troelli o gampas tŵr
Enw
golyguAr lafar defnyddir y gair sleid yn aml, sy'n addasiad o'r gair Saesneg, slide. Mae'r gair "llithren" yn y Gymraeg yn dyddio yn ôl i o leiaf 1862.[3]
Cofnodwyd y gair yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru fel; "arwyneb lyfn gogwyddol ar gyfer llithro nwyddau trymion ar hyd-ddo o un lle i'r llall; dyfais debyg wedi ei gosod mewn maes chwarae &c er difyrrwch i blant, man i lithro neu ysglefrio arno; sleid".[3]
Llithrenni Cymru
golyguO bosib llithren enwocaf a mwyaf Cymru yw'r rhai ym mharc diddan Oakwood, ger Arberth yn Sir Benfro. Yno ceir y 'Waterfall'[4] un adnodd gyda dau lithren ddŵr yn disgyn allan ohoni, lle bydd y person yn eistedd ar sled rwber wrth lithro ar ddŵr.[5][6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 https://esnpc.blogspot.com/2017/08/cellar-doors-and-trolleys-history-of.html
- ↑ https://socialwelfare.library.vcu.edu/settlement-houses/settlement-houses/
- ↑ 3.0 3.1 llithren. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 11 Awst 2022.
- ↑ https://www.oakwoodthemepark.co.uk/adrenaline-adventure/
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=ahFhwsg7ED8
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=o-ExR2EAQoQ
Dolenni allanol
golyguOriel
golygu-
Llithren ddŵr mewn parc ddŵr yn Fflorida
-
Llithren mewn maes chwarae
-
Gorsaf Llithren yn Kevelaer, Yr Almaen
-
Llithren matiau yn Harderwijk, Iseldiroedd gyda Dwmbwr-Dambwr yn y cefndir
-
Llithren anferth
-
Llithren sbiral