Llongau Caernarfon (cân)
Cân werin draddodiadol yw Llongau Caernarfon.
Mae'r gân hon y cael ei chanu gan fachgen ifanc o Gaernarfon ('Cnarfon; ar lafar).
Mae'n darlunio ei ddyheadau i gael mynd yn forwr, ryw ddiwrnod. Mae'r fachgen ifanc yn sefyll yn y cei gyda pherson arall gan ofyn iddi pam na chai fynd yn forwr.
Ysgrifennwyd y gân gan John Glyn Davies (1870 – 1953) a chanwyd hi gan lawer o unigolion a grwpiau. Recordiwyd y gân gan y band Sobin a'r Smaeliaid yn 2000 ar albwm 'A Rhaw'.
Geiriau
golyguMae'r holl longau wrth y cei yn llwytho
Pam na chawn i fynd fel pawb i forio.
Dacw dair yn dechrau warpio
Ac am hwylio heno
Birkinhead, Bordo a Wiclo.'
Toc daw'r stemar bach i douio
Golau gwyrdd ar waliau wrth fynd heibio.
Pedair llong wrth angor yn yr afon
Aros teit i fynd tan Gastell C'narfon
Dacw bedwar goleu melyn
A rhyw gwch ar gychwyn
Clywed swn y rhwyfau wedyn
Toc daw'r stemar bach i douo
Goleu coch ar waliau wrth fynd heibio.
Llongau'n hwylio draw a llongau'n calyn
Heddyw fory ac yfory wedyn
Mynd a'u llwyth o lechi gleision
Dan eu hwyliau gwynion
Rhai i Ffrainc a rhai i'r Werddon
O na chown i fynd ar f'union
Dros y môr a hwylion ôl i G'narfon.
Holaf ym mhob llong ar hyd yr harbwr
Oes 'na le i hogyn fynd yn llongwr
A chael spleinsio rhaff a rhiffio
A chael dysgu llywio
A chael mynd mewn cwch i sgwlio.
O na chawn i fynd yn llongwr
A'r holl longau'n llwytho yn yr harbwr.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Meinir Wyn Edwards, 100 o Ganeuon Gwerin (Y Lolfa, 2012), t.61