John Glyn Davies

cyfansoddwr a aned yn 1870

Ysgolhaig yr ieithoedd Celtaidd, ysgrifennwr caneuon a bardd o Gymro oedd yr Athro John Glyn Davies (22 Hydref 187011 Tachwedd 1953).[1]

John Glyn Davies
Ganwyd22 Hydref 1870 Edit this on Wikidata
Sefton Park Edit this on Wikidata
Bu farw11 Tachwedd 1953 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Sefydliad y Bechgyn, Lerpwl Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, cyfansoddwr, cyfansoddwr caneuon, academydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Roedd yn gasglwr ar alawon a cherddi traddodiadol, gan eu haddasu neu eu trosi i'r Gymraeg. Mae sawl cân werin Gymraeg, fel Llongau Caernarfon neu Fflat Huw Puw, yn eiddo iddo.

Roedd ganddo ddiddordeb mewn modelau o longau, a dangoswyd arddangosfa o'i gasgliad yn Amgueddfa Lechi Cymru yng Ngorffennaf 2006.[2]

Magwraeth a theulu golygu

Ganwyd John Glyn Davies yn 55 Peel St, Sefton Park, Lerpwl i deulu Cymreig, ac yn fab i John (Masnachwr te) a Gwen Davies. Roedd yn wyr i John Jones, Talysarn (tad ei fam), tras y byddai'n ymfalchïo ynddo ar hyd ei oes. Roedd ganddo dri brawd: George M. Ll. Davies, Stanley Davies a'r Capten Frank Davies.[3] Derbyniodd ei addysg yn y Liverpool Institute .

Ar 18 Gorffennaf 1908 priododd Hettie Williams o Geinewydd, Ceredigion a chawsant un mab a thair merch: Gwen, Mair ac Elin; sef y 'Gwen a Mair ac Elin' a 'fu'n bwyta lot o bwdin' yn y gân honno sy'n dal i fod yn boblogaidd heddiw.

Gwaith golygu

Wedi gadael yr ysgol, gweithiodd i sawl cwmni gan gynnwys cwmniau llongau hwylio Rathbone Brothers (1887-92), y Cambrian (1892-95), Henry Tate & Sons (1895-96) ac yna gyda'r Mines Corporation of New Zealand (1896-98), cyn newid gyrfa'n llwyr, ac ennill gradd yn Aberystwyth. Daeth y tro hwn yn ei yrfa oherwydd dylanwad Thomas Edward Ellis ac eraill a'i ysgogodd i fynd i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth i gasglu llyfrgell Gymraeg a fyddai'n sylfaen i 'Lyfrgell Genedlaethol Cymru' yn ddiweddarach. Bu yn Aberystwyth o 1899 i 1907 a dywedir iddo wneud cyfraniad pwysig yno, ond roedd yn anfodlon ar amodau ei swydd. Bu'n llyfrgellydd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, cyn ymuno ar staff Prifysgol Lerpwl, ei dref enedigol, yn 1907, a dod yn athro ar yr Adran Gelteg yn 1920 yn dilyn ymddeoliad yr Athro Kuno Meyer. Bu yno hyd at ei ymddeoliad yn 1936 gan deithio o'i gartef yn Mostyn ac yn Ninbych.

Wedi ymddeol bu'n byw yng Nghaergrawnt, Llandegfan, Llannarth (Ceredigion) a Llanfairfechan lle bu farw ar 11 Tachwedd 1953.

Llyfryddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  Yr Athro Robert Geraint Gruffydd. Davies, John Glyn. Y Bywgraffiadur Ar-lein. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 23 Tachwedd 2012.
  2.  'Hwylio Heno'. BBC (Gorffennaf 2006). Adalwyd ar 23 Tachwedd 2012.
  3. Y Bywgraffiadur Cymraeg Arlein; Llyfrgell Genedlaethol Cymru.


  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.