Llwgrwobrwyaeth

(Ailgyfeiriad o Llwgrwobr)

Y weithred o roi arian neu rodd er mwyn newid ymddygiad y derbynnydd ydy llwgrwobrwyaeth. Mae'n drosedd a ddiffinir gan Black's Law Dictionary fel cynnig, rhoi, derbyn, neu ddeisyfu unrhyw eitem o werth er mwyn dylanwadu ar weithredoedd person swyddogol neu berson sy'n gyfrifol am ddyletswydd gyhoeddus neu gyfreithiol.

Llwgrwobrwyaeth
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig yn erbyn Llygredd

Y llwgrwobr yw'r rhodd a roddir er mwyn dylanwadu ar ymddygiad y derbynnydd. Gall fod yn arian, nwyddau, eiddo, dyrchafiad, anrhydedd, cyflog, gwrthrych gwerthfawr, mantais neu hyd yn oed addewid i ddylwanwadu ar weithred, pleidlais, neu ar berson mewn swyddogaeth gyhoeddus.[1]

Yn fiwrocrataidd, ystyrir llwgrwobrwyo fel achos cynnydd yng nghost nwyddau a gwasanaethau.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Yn gyffredinol gweler T. Markus Funk, "Don't Pay for the Misdeeds of Others: Intro to Avoiding Third-Party FCPA Liability," 6 BNA White Collar Crime Report 33 (January 14, 2011) Archifwyd 2014-03-16 yn y Peiriant Wayback (yn trafod llwgrwobrwyaeth yng nghyd-destun y Ddeddf Arferion Llwgr Gwledydd Tramor).