Llwyd y Gwrych
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Prunellidae
Genws: Prunella
Rhywogaeth: P. modularis
Enw deuenwol
Prunella modularis
(Linnaeus, 1758)

Mae Llwyd y Gwrych, Prunella modularis, yn gyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop a rhan o Asia. Hwn yw'r unig aelod o'r teulu Prunellidae sydd i'w gael ar dir isel - mae'r gweddill yn adar mynydd. Mae tua'r un faint a Robin Goch, 13.5–14 cm o hyd.

Mae bywyd rhywiol yr aderyn hwn yn gymhleth a diddorol. Gall yr iar baru gyda dau geiliog neu hyd yn oed fwy na dau, ac mae'r un peth yn wir am y ceiliogod. Gall fod yn aderyn mudol mewn rhai gwledydd lle ceir gaeafau oer, ond yng Nghymru mae'n aros trwy'r flwyddyn.