Agor y brif ddewislen

Llawysgrif Gymreig ddiflanedig yw Llyfr Coch Asaph. Er i'r llyfr ei hun ddiflannu mae ysgolheigion wedi llwyddo i adfer canran sylweddol o'r testun o'r copïau a wnaed gan yr hynafiaethydd Robert Vaughan (1592-1667) ac eraill. Roedd yn cynnwys nifer o ddogfennau cyfreithiol ac eglwysig yn ymwneud ag Esgobaeth Llanelwy, yn Gymraeg a Lladin.

Ni wyddys pryd yn union y lluniwyd y dogfennau gwreiddiol a'u casglu ynghyd mewn llyfr, ond mae'n debygol mai rhywbryd yn yr Oesoedd Canol Diweddar y digwyddodd hynny, efallai dros gyfnod o amser. Diflannodd y llawysgrif wreiddiol yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr. Gwnaeth Robert Vaughan a chopïwyr eraill bedwar copi anghyflawn o'r deunydd yn hanner cyntaf yr 17g ac mae ysgolheigion wedi cymharu'r testunau hyn i geisio adlunio'r testunau gwreiddiol.

Dogfennau cyfreithiol yn ymwneud â hanes gweinyddu Esgobaeth Llanelwy oedd cynnwys y llyfr. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu iddynt gael eu llunio yn y 13g a'r 14g. Maent yn ffynhonnell bwysig i haneswyr ac yn dyst i weithgarwch sgriptoriwm Llanelwy yn yr Oesoedd Canol.

FfynhonnellGolygu

  • Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, d.e. 'Llanelwy'.

LlyfryddiaethGolygu

  • O. E. Jones, 'Llyfr Coch Asaph. A textual and historical study' (Cymru [Aberystwyth], M.A., 1968.