Agor y brif ddewislen

Robert Vaughan

hynafiaethydd a pherchen llyfrgell enwog Hengwrt
Efallai eich bod yn chwilio am Robert Vaughn.

Roedd Robert Vaughan (tua 159216 Mai 1667) o'r Hengwrt, yn Llanelltud ger Dolgellau, yn hynafiaethydd a chasglwr llawysgrifau Cymreig a llyfrau ac yn berchen llyfrgell enwog.

Robert Vaughan
Ganwyd 1592 Edit this on Wikidata
Hengwrt Edit this on Wikidata
Bu farw 16 Mai 1667 Edit this on Wikidata
Man preswyl Hengwrt Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth hynafiaethydd, casglwr, Hanesydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus am Llawysgrifau Peniarth Edit this on Wikidata

BywgraffiadGolygu

Roedd Robert yn fab i'r uchelwr lleol Hywel Fychan o'r Wengraig, ger Dolgellau. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Oriel, Rhydychen, ond gadawodd heb raddio er mwyn priodi merch Gruffudd Nannau (uchelwr pwysicaf yr ardal). Symudodd y pâr ifanc i blasdy'r Hengwrt i fyw. Daeth yn ustus heddwch lleol ond ymddengys na chymerai fawr o ddiddordeb yn helyntion gwleidyddol y cyfnod. Roedd ei fryd yn gyfangwbl ar astudio hynafiaethau Cymru, hel achau a chasglu llyfrau a llawysgrifau Cymreig. Gohebai â nifer o ysgolheigion a hynafiaethwyr eraill gan gynnwys y Dr John Davies (Mallwyd), Rhys Cain, Siôn Cain, a John Jones (Gellilyfdy).

Roedd Robert Vaughan yn awdur y gyfrol British Antiquities Revised (1662) a sawl cyfrol arall na chafodd ei chyhoeddi yn cynnwys cyfieithiad Saesneg o Frut y Tywysogion ac ymdriniaeth ar Drioedd Ynys Prydain.

Llwyddodd i hel at ei gilydd y casgliad pwysicaf o lawysgrifau Cymreig a luniwyd gan un person erioed. Roedd yn cynnwys Llyfr Du Caerfyrddin, Llyfr Taliesin, Llyfr Gwyn Rhydderch, Llyfr Aneirin a nifer o destunau o'r Brutiau a Chyfraith Hywel Dda ynghyd â gwaith nifer o Feirdd yr Uchelwyr. Yn ddiweddarach cafodd y casgliad gwych hwn ei werthu i deulu plasdy Peniarth (ger Tywyn) ac oddi yno i'r Llyfrgell Genedlaethol ar ôl i Syr John Williams ei brynu yn 1905. Fe'i adnabyddir heddiw fel Llawysgrifau Peniarth.

CyfeiriadauGolygu