Llyfr Kells
Llawysgrif addurniedig yn dyddio o tua 800 OC yw Llyfr Kells (Gwyddeleg, Leabhar Cheanannais). Ystyrir y llawysgrif, sy'n awr yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, yn un o uchafbwyntiau celfyddyd Geltaidd. Mae'n cynnwys y pedwar efengyl yn Lladin, gyda deunydd eglurhaol a rhagarweiniol.
![]() | |
Enghraifft o: | codecs, llawysgrif oliwiedig ![]() |
---|---|
Deunydd | felwm ![]() |
Iaith | Lladin ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | 8 g ![]() |
Dechrau/Sefydlu | c. 800s ![]() |
Genre | llenyddiaeth grefyddol ![]() |
Lleoliad | Coleg y Drindod, Dulyn ![]() |
Enw brodorol | Leabhar Cheanannais ![]() |
Gwefan | https://www.bookofkells.ie ![]() |
![]() |

Daw'r enw o Abaty Kells, yn Kells, Swydd Meath yn Iwerddon. Yn draddodiadol, cysylltir y llawysgrif a Sant Colum Cille, ond y farn ymysg ysgolheigion yw ei bod yn ddiweddarach, yn dyddio o gyfnod tua'r flwyddyn 800. Ceir nifer o ddamcaniaethau am darddle'r llawysgrif. Y farn fwyaf cyffredinol ar hyn o bryd yw ei fod wedi ei ddechrau ar ynys Iona yn yr Alban a bod gwaith wedi parhau arno wedi iddo gael ei symud i Kells. Mae'r llawysgrif yn anorffenedig.
Ceir cofnod ym Mrut Wlster am 1009 i'r llawysgrif gael ei dwyn, ond iddi gael ei hail-ddarganfod, heb y clawr aur, ychydig fisoedd wedyn.