Colum Cille

mynach cenhadol Gwyddelig

Roedd Colum Cille, neu Sant Columba (7 Rhagfyr 5219 Mehefin, 597), yn gennad Cristnogol, yn awdur yn yr iaith Ladin, yn sefydlydd mynachlogydd ac un o'r seintiau pwysicaf yr Eglwys yn Iwerddon, a aned yn Gartan, Donegal.

Colum Cille
Ganwyd7 Rhagfyr 521 Edit this on Wikidata
Swydd Donegal Edit this on Wikidata
Bu farw9 Mehefin 597 Edit this on Wikidata
Iona Edit this on Wikidata
Man preswylSwydd Donegal Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGaelic Ireland Edit this on Wikidata
Galwedigaethmynach, cenhadwr Edit this on Wikidata
Swyddabad Edit this on Wikidata
Adnabyddus amCathach Sant Columba Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl9 Mehefin Edit this on Wikidata
TadFeidhlimidh Edit this on Wikidata
MamEithne o Leinster Edit this on Wikidata

Ei fywyd cynnar

golygu
 
Ffenestr gwydr lliw yn portreadu Colum Cille yng Nghastell Coch, Caerdydd

Ystyr ei enw yw "Colomen yr Eglwys", Columba yn Lladin. Ganed Colum Cille tua 520, yn aelod o deulu uchelwrol yr Uí Néill yng ngogledd Iwerddon. Roedd ei dad Fedlimid yn un o orwyr Niall Noigiallach, sefydlydd y llinach. Cafodd Colum Cille ei fedyddio yn Criamthann ond pan aeth yn fynach rhoddwyd iddo'r enw Columba ("Colomen yr Eglwys") yn Lladin.

Ei waith cenhadol

golygu

Yn 546 sefydlodd fynachlog Derry. Yn ddiweddarach sefydlodd fynachlogydd Durrow a Kells yn ogystal. Tua'r flwyddyn 565 aeth gyda mintai fach o ddisgyblion i ogledd yr Alban ar genadwriaeth i droi'r Pictiaid i'r ffydd newydd. Tra yno sefydlodd fynachlog Iona ar ynys fechan yn yr Hebrides (Ynysoedd Heledd). Cafodd ei gladdu yn Iona yn 597 a'i addoli wedyn fel nawddsant yr Alban. Cysegrwyd, neu, dywed iddo gysegru sawl man yn yr Alban gan gynnwys Teampall Chaluim Chille, eglwys hynafol a gysegrwyd iddo yn Baile a' Mhanaich ar ynys Beinn na Faoghla sydd ar Ynysoedd Allanol Heledd.

Ffynonellau am ei fywyd

golygu

Cofnodir ei waith a'i fywyd yn y fuchedd Ladin y Vita Columbae gan Adamnán, yng ngwaith y mynach Beda ac yn yr Amra Choluim Chille, mawl mydryddol a ysgrifennwyd yn fuan wedi ei farwolaeth. Mae buchedd Ladin ddiweddarach, o Iwerddon, ar glawr hefyd.

Ei waith llenyddol

golygu
 
Llythyren Q agoriadol o'r Cathach Columba

Yn ôl hen draddodiad, dilys efallai, Colum Cille yw awdur y gyfres o gerddi Lladin Altus Prosator. Dywedir iddo gymryd saith mlynedd i'w chyfansoddi, mewn cell dywell heb oleuni, fel penyd am ei falchder. Mae traddodiad arall yn honni ei fod wedi'i ysgrifennu yn Iona, yn sydyn iawn, wrth falu ŷd yn felin y fynachlog.

Yn ôl traddodiad Colum Cille oedd y copïydd a ysgrifennodd y llawysgrif bwysig Cathach Sant Columba (tua dechrau'r 7g).

Llyfryddiaeth

golygu
  • Adamnán's Life of Columba, gol. M.O. Anderson (Rhydychen, 1991)
  • M. Herbert, Iona, Kells and Derry (Rhydychen, 1988)