Llyfrau Ceiniog Humphreys
Roedd Llyfrau Ceiniog Humphreys yn gyfres o lyfrau a gyhoeddwyd gan yr argraffwr, cyhoeddwr a phregethwr Hugh Humphreys,[1] Caernarfon (1817—1896).
Cefndir
golyguFel mae'r enw yn awgrymu pris pob cyfrol oedd un geiniog (ar y pryd gwerth £0.004 , nid y £0.01 cyfoes). Mae'r cyfrolau yn 12 tudalen o hyd, ac yn delio a phob pwnc dan haul o hanes Pla mawr Llundain, Cyfreithiau Hywel Dda, Bywgraffiad Y Pab Piws IX i Ferched Enwog yn Hanes Cymru. Cyhoeddwyd o leiaf 96 o'r llyfrau, sef y nifer a ail-gyhoeddwyd mewn 2 gyfrol yn cynnwys 48 yr un ohonynt.
Mae awduron y rhan fwyaf o'r llyfrau yn anhysbys. Ysgrifennodd Llew Llwyfo[2] hunangofiant yn unswydd i'r gyfres, a chyfieithiad o waith Thomas Pennant yw'r llyfr am Owain Glyndŵr. Am y gweddill mae'n debyg mae cyfieithiadau gan Hugh Humphreys ei hun o adroddiadau o bapurau Llundain neu o benodau o lyfrau Saesneg ydy'r mwyafrif mawr ohonynt.
Cyhoeddwyd gyfrol newydd pob wythnos gan gychwyn tua 1878.[3]
Gwerthfawrogiad
golyguYn ei Atgofion am Gaernarfon dyfynna'r Athro Hudson Williams o Hanes yr Ysgol Sir ym Mrynrefail gan H. Parry-Jones:—
“ | "Dyma y llyfrau mwyaf cyfareddol a ddaeth i ddwylaw bechgyn erioed; llyfrau ceiniog Humphreys Caernarfon. Dyma agoriadau i wlad hud a lledrith."[4] | ” |
Teitlau
golyguDyma restr anghyflawn iawn o rai o'r teitlau
- Hanes Pedr Fawr, ymerawdwr Rwssia
- Hanes Pio Nono, y diweddar Bab
- Hanes Brwydr fythgofiadwy Waterloo
- Hanes Alexander Fawr a'i Ryfeloedd
- Y Pla mawr yn Llundain, a'r Tân
- Hanes Mahomet y Gau-brophwyd
- Cynghorion Teuluol buddiol
- Columbus, darganfyddwr America
- Gau-grefyddau a Gau-grefyddwyr
- Drylliadau y Commerce a'r Royal Charter
- Hanes Poland a'i Gorthrymderau
- Hanes Owain Glyndwr a'i Ryfeloedd
- Y Crusades, neu Ryfeloedd y Groes
- Hanes Bywyd Syr Thomas Picton
- Y Chwilys a'i Weithrediadau arswydus
- Hanes y Gwrthryfel ar fwrdd y Bounty
- Hanes Llundain, Prifddinas y Byd
- Daeargrynfeydd, a dinystr Lisbon
- Hanes yr anffodus Farwn Trenck
- Sut i wneyd Diodydd iachusol
- Hanes H. M. Stanley yn Affrica
- Hanes Cyflwr arswydus Francis Spira
- Castell Caernarfon, a'r ymosod arno
- Bywyd ac Anturiaethau Cadben Cook
- Hanes y Gwrthryfel yn India yn 1857
- Y Cospedigaethau a nodir yn y Beibl
- Hanes Boneddiges ddall a'i Helbulon
- Hanes Cwn; eu Ffyddlondeb i Ddyn
- Hanes Bywyd a Llafur John Wesley
- Difrod y Prydeiniaid yn Cabool, India
- Hanes John Gibson, y Cerflunydd
- Hanes yr enwog Dr. Franklin, America
- Ffoadigaeth y Ffrangcod o Rwsia, 1812
- Hanes William Tell o Switzerland
- Cynghorion ar Byngciau cyfreithiol
- Mordaith Anson o amgylch y Ddaear
- Hanes Bywyd y dyngarol J. Howard
- Hanes Ffynon Elian, a Jack yr offeiriad
- Anturiaethau Dr. Livingstone, Affrica
- Hanes Bywyd J. B. Gough, America
- Hanes Gwrthryfel Iwerddon yn 1798
- Gwarchaead Tair o Drefydd caerog
- Suddiad yr Agerddlong Princess Alice
- Hanes Joan o Arc (Morwynig Orleans)
- Hanes y Telephone a'r Phonograph
- Môr-frwydrau y Nile a Copenhagen
- Hanes Bywyd y bardd Twm o'r Nant
- Dynion a ymddyrchafasant trwy Lafur
- Bywyd Martin Luther y Diwygiwr
- Brad yr Indiaid Cochion yn America
- Hywel Dda, a'i Gyfreithiau clodfawr
- Ffraingc a'i Helbulon terfysglyd
- Tystiolaethau Amgylchiadol, &c
- Bywyd y Gwron enwog Garibaldi
- Hanes y Pyramidiau hynod yn yr Aipht
- Lewis Morris (Llewelyn Ddu o Fôn)
- Brwydr Trafalgar, lle lladdwyd Nelson
- Goresgyniad Ynys Prydain gan Caisa
- Ymchwiliadau i'r Pegwn Gogleddol
- Y Brenin Arthur yn cymeryd Rhufain
- John Bunyan, awdwr Taith y Pererin
- Drylliad yr Agerddlong Rothsay Castle
- Brad y Cyllill Hirion gan y Saeson
- Hanes Goronwy Owain y Bardd enwog
- Abyssinia a Chwymp Theodore
- Hanes Prascovie, Arwres Siberia
- Oberlin, Gweinidog Protestanaidd
- Hanes Hen Gymry y Canoloesoedd
- Wm. Penn, Sylfaenydd Pennsylvania
- Llywelyn, Tywysog olaf y Cymry
- Gustavus Adolphus a'r Rhyfel hir
- Merched enwog yn hanes Cymru
- Richard Wilson, yr Arlunydd Cymreig
- Tiriad y Ffrangcod yn Abergwaun
- George Stephenson, y Peiriannydd
- Mabinogion Arthur y Ford Gron
- Hanes y Cymry yn America
- Hanes Iolo Morganwg, y Bardd, &c.
- Rob Roy Macgregor a'i Anturiaethau
- Hanes Iarll de Charney a Picciola
- Y Bastile a'r Creulonderau a fu yno
- Llong-ddrylliad arswydus y Medusa
- Hanes Bywyd George Washington
- Hanes Oliver Cromwell, a'i Amserau
- Hanes Bywyd Thomas Charles o'r Bala
- Richard Falconer, a'i Beryglon morawl
- Yr Ymosodiad ar New Orleans
- Syr Owain ap Tudur o Benmynydd
- Hanes y Diwygwyr yn Ffraingc
- Wilberforce, Diddymwr y Gaethfasnach
- Hanes Eugene Aram, y Llofrudd, &c
- Daeargrynfeydd yn y ganrif bresenol
- Môr-ladron-Hanes Peggi Morgan
- Y Bachgen dewr a gonest o'r Alpau
- Alaric y Goth: Hanesyn Rhufeinig
- Cas-bethau y Gwr o Hendregaerog, &c.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "HUMPHREYS, HUGH (1817 - 1896), argraffydd a chyhoeddwr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2022-04-21.
- ↑ "LEWIS, LEWIS WILLIAM ('Llew Llwyfo '; 1831 - 1901), bardd, nofelydd, a newyddiadurwr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2022-04-21.
- ↑ "Advertising - Y Genedl Gymreig". Thomas Jones. 1878-09-19. Cyrchwyd 2022-04-21.
- ↑ LLYFRAU CEINIOG; Griffith,Ifor Bowen; Gwefan Y Casglwr adalwyd 21 Ebrill 2022