Lewis William Lewis (Llew Llwyfo)

bardd, nofelydd, a newyddiadurwr

Bardd, nofelydd, canwr a newyddiadurwr Cymreig oedd Lewis William Lewis (31 Mawrth 183123 Mawrth 1901), a oedd yn adnabyddus wrth ei enw barddol Llew Llwyfo (neu "Y Llew" ar lafar).

Lewis William Lewis
Llew Llwyfo tua 1875.
FfugenwLlew Llwyfo Edit this on Wikidata
Ganwyd31 Mawrth 1831 Edit this on Wikidata
Llanwenllwyfo Edit this on Wikidata
Bu farw23 Mawrth 1901 Edit this on Wikidata
Y Rhyl Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Cymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Y Gwron Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

 
Cerdd gan "y Llew" yn ei law ei hun at ei gyfaill y ffotograffydd John Thomas

Ganed ef ym mhentref Penysarn, Llanwenllwyfo, ger Amlwch, Ynys Môn. Bu'n gweithio yng ngwaith copr Mynydd Parys a gyfnod, yna bu'n brentis brethynnwr ym Mangor cyn cadw siop ei hun ym Mhensarn ac wedyn ysgol yn Llanallgo. Bu'n gweithio ar staff nifer o bapurau newydd Cymraeg mewn gwahanol leoedd, gan gynnwys cyfnod fel golygydd Y Glorian yng Nghasnewydd. Bu yn yr Unol Daleithiau o 1868 hyd 1874.[1]

Daeth yn adnabyddus iawn fel canwr mewn cyngherddau, ac fel arweinydd eisteddfodau. Fel bardd, enillodd nifer o wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gan gynnwys y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam 1888 a Llanelli 1895.[1]

Cyhoeddodd sawl cyfrol o gerddi. Fe'i cofir hefyd fel un o arloeswyr cynnar y nofel yn Gymraeg, yn enwedig am Llewelyn Parri (1855) a Huw Huws (1860).

By farw yn Y Rhyl a chladdwyd ef ym Mynwent Llanbeblig, Caernarfon.[1]

Llyfryddiaeth golygu

Cyhoeddiadau golygu

 
Bedd Llew Llwyfo
  • Awen Ieuanc (1851)
  • Llewelyn Parri: neu y Meddwyn Diwygiedig (nofel) (1855)
  • Huw Huws neu y llafurwr Cymreig (nofel) (1860)
  • Llyfr y Llais (1865)
  • Troadau yr Olwyn (1865)
  • Gemau Llwyfo (1868)
  • Y Creawdwr (1871)
  • Cyfrinach Cwm Erfin, a Y Wledd a'r Wyrth (nofelau)
  • Buddugoliaeth y Groes (1880)
  • Cydymaith yr herwheliwr: neu a gollwyd ac a gafwyd. Chwedl Wledig (1882)
  • Adgofion Llew Llwyfo o'i Ymdaith yn America, ganddo ef ei hun
  • Bywgraffiad Llew Llwyfo, yn llenyddol, cerddorol, ac eisteddfodol, wedi ei ysrifennu ganddo ef ei hun (Llyfrau Ceiniog Humphreys Caernarfon);

Bywgraffiad golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Eryl Wyn Rowlands, Y Llew oedd ar y Llwyfan (Caernarfon, 2001).
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: