Agor y brif ddewislen

Llyfrgell Bodley, Prifysgol Rhydychen

prif lyfrgell ymchwil Prifysgol Rhydychen
(Ailgyfeiriad oddi wrth Llyfrgell Bodley)

Llyfrgell Bodley yw llyfrgell bwysicaf Prifysgol Rhydychen. Mae'n cynnwys nifer fawr o lawysgrifau prin ynghyd â chasgliad helaeth o lyfrau printiedig cynnar.

Llyfrgell Bodley
Oxford stad 2016 06.JPG
Math college library, research library Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôl Thomas Bodley Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1602 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Prifysgol Rhydychen Edit this on Wikidata
Sir Rhydychen Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau 51.754°N 1.2551°W Edit this on Wikidata
Manylion
Statws treftadaeth adeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Sylfaenwyd gan Thomas Bodley Edit this on Wikidata

Sefydlwyd y llyfrgell wreiddiol yn 1409 a chafodd ei hatgyweirio a'i helaethu gan Syr Thomas Bodley rhwng 1598 a 1602. Er 1610 mae'n un o'r llyfrgelloedd yng ngwledydd Prydain sydd â'r hawl i dderbyn copi rhad ac am ddim o bob llyfr a gyhoeddir yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon. Erbyn heddiw mae tua 3 miliwn o gyfrolau yn y llyfrgell.

Ymhlith y cyfrolau Cymreig a Chymraeg ynddi mae Llyfr Coch Hergest, un o'r ffynonellau pwysicaf ar gyfer y chwedlau Cymraeg Canol a elwir y Mabinogi, ynghyd â thestunau rhyddiaith a barddoniaeth eraill.

Llyfr Coch Hergest, ff. 240-241
Coat of arms for the City of Oxford.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Rydychen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.