Llyfrgell Genedlaethol Tiwnisia

llyfrgell yn Nhiwnis

Prif storfa gyfreithiol a hawlfraint Tiwnisia yw Llyfrgell Genedlaethol Tiwnisia (Arabeg: المكتبة الوطنية التونسية ; Ffrangeg: Bibliothèque nationale de Tunisie).

Llyfrgell Genedlaethol Tunisia
Mathllyfrgell genedlaethol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1885 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Cyfesurynnau36.79996°N 10.164027°E Edit this on Wikidata
Map

Sefydlwyd y llyfrgell yn Nhiwnis ym 1885 fel y Bibliothèque francaise ('Llyfrgell Ffrengig'). Newidiwyd yr enw a chreu llyfrgell genedlaethol swyddogol ar ôl i Diwnisia ennill ei hannibyniaeth ar Ffrainc ym 1956. Yn 2005 symudodd o'r hen adeilad ym medina Tiwnis i adeilad newydd ar Boulevard 9 avril, ger Archifdy Cenedlaethol Tiwnisia. Cafodd yr adeilad newydd ei agor yn swyddogol gan Zine El Abidine Ben Ali, Arlywydd Tiwnisia, ar 1 Rhagfyr 2005.[1]

Llyfrau a llawysgrifau golygu

Mae adran llawysgrifau'r llyfrgell yn cynnwys dros 40,000 teitl mewn 24,000 cyfrol. Dyma un o'r casgliadau llawysgrifau Arabeg mwyaf yn y byd sy'n cynnwys sawl cyfrol brin iawn ac sy'n rhychwantu tua 14 can mlynedd o ddysg, gwyddoniaeth a llenyddiaeth Arabaidd.[2]

Mae'r adran llyfrau printiedig yn cynnwys llyfrau o'r 16g hyd heddiw ar sawl pwnc. Llyfrau Arabeg a Ffrangeg yw'r rhan fwyaf o'r rhain, ond ceir cyfrolau mewn tua hanner cant o ieithoedd eraill hefyd.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Gwefan (Ffrangeg)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-01-02. Cyrchwyd 2009-04-17.
  2. 2.0 2.1 "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-01-02. Cyrchwyd 2009-04-17.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Diwnisia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.