Llyfrgell y Fatican
llyfrgell y Babaeth
Llyfrgell Esgobaeth y Pab, a leolir yn y Fatican, Rhufain, yw Llyfrgell Apostolaidd y Fatican (Lladin: Bibliotheca Apostolica Vaticana) neu, yn syml, Llyfrgell y Fatican.[1] Fe'i sefydlwyd yn ffurfiol ym 1475, er ei bod yn llawer hŷn. Mae'n cynnwys un o'r casgliadau mwyaf arwyddocaol yn y byd o destunau hanesyddol. Mae ganddi 75,000 o godecsau, yn ogystal ag 1.1 miliwn o lyfrau printiedig, sy'n cynnwys tua 8,500 o incwnabwla.[2] Mae'r llyfrgell yn adnodd pwysig i ymchwilwyr ym meysydd hanes, y gyfraith, athroniaeth, gwyddoniaeth a diwinyddiaeth.
Math | llyfrgell genedlaethol |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Y Fatican |
Cyfesurynnau | 41.9047°N 12.4544°E |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Mendelsohn, Daniel (3 Ionawr 2011). "God's Librarians". The New Yorker (yn Saesneg). 86 (42). t. 24. ISSN 0028-792X. Cyrchwyd 3 Awst 2014.
- ↑ "DigiVatLib". digi.vatlib.it. Cyrchwyd 17 Ionawr 2017.