Llymru
Enwau eraill ar llymru ydy bwdran neu sucran. Yn ôl Geiriadur y Brifysgol tarddodd y gair Saesneg 'Flummery' allan o'r gair Cymraeg llymru. Rhoddir blawd ceirch i fwydo neu ei socian mewn dŵr a llaeth enwyn fel arfer, nes iddo ddechrau suro. Yna berwir y trwyth. Yr un tarddiad sydd i'r gair â 'llymrig' sef noeth, llwm neu feddal.
Caiff ei restru fel un o fwydydd traddodiadol ardal Uwchaled yn y clasur hwnnw 'Cwm Eithin' gan Hugh Evans.
Y tro cyntaf i'r gair ymddangos ar bapur oedd yn 1775 a thua'r un adeg fe ganodd y bardd Huw Llwyd:
Yn Holand menyn helaeth,
Yng Nghymru llymru a llaeth.