Bodensee
(Ailgyfeiriad o Llyn Constans)
Llyn mawr ar Afon Rhein rhwng yr Almaen, y Swistir ac Awstria yw'r Bodensee (Almaeneg: Bodensee; Ffrangeg: Lac de Constance). Mae ganddo arwynebedd o 536 km2. Mae'r llyn yn cynnwys tair ynys fawr, Ynys Mainau, Ynys Reichenau ac Ynys Lindau, ynghyd â nifer o ynysoedd llai. Fe'i lluniwyd yn ystod Oes yr Iâ gan rewlif y Rhein.
Math | area not part of a municipality of Switzerland, holomictic lake, eutrophic lake, hypertrophic lake, mesotrophic lake, dyfrffordd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Konstanz, Bodman |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Afon Rhein |
Sir | Thurgau, St. Gallen, Schaffhausen, Vorarlberg, Konstanz, Bodenseekreis, Lindau |
Gwlad | Y Swistir, yr Almaen, Awstria |
Arwynebedd | 536 km² |
Uwch y môr | 395.23 metr |
Cyfesurynnau | 47.65°N 9.3167°E |
Dalgylch | 11,500 cilometr sgwâr, 11,487 cilometr sgwâr |
Hyd | 63 cilometr |
Daw ei enw oddi wrth enw'r pentref Bodman ar ben gogledd-orllewinol y llyn. Ffurfiau cynharach ar ei enw yw Bodmansee a Bodansee. Mae llawer o ieithoedd Ewropeaidd yn defnyddio enwau ar y llyn (megis Ffrangeg Lac de Constance, Saesneg Lake Constance, Eidaleg Lago di Costanza, Portiwgaleg Lago de Constança, Sbaeneg Lago de Constanza) sy'n tarddu oddi wrth enw Konstanz, dinas fwyaf ar lan y llyn.