Llyn Craigypistyll
llyn yng Ngheredigion
Lleolir Llyn Craigypistyll ym mryniau gogledd Ceredigion tua 3.5 milltir i'r gorllewin o gopa Pumlumon. Mae'n llyn artiffisial a greuwyd trwy godi argae ar ran uchaf Afon Leri ac a ddefnyddir fel cronfa dŵr.
![]() | |
Math |
llyn ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Ceredigion ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
52.455593°N 3.882949°W ![]() |
![]() | |
Gorwedd y llyn 350 metr uwch lefel y môr mewn cwm un filltir i'r de-orllewin o ben gorllewinol cronfa dŵr Nant-y-moch. Fe'i bwydir gan sawl nant fechan. Mae afon Leri yn llifo o'i ben gorllewinol, trwy'r argae, ac yn disgyn i wlybtiroedd Cors Fochno a'i haber yn Afon Dyfi.