Llyn Du'r Arddu

llyn, Gwynedd, Cymru

Llyn ar yr Wyddfa yn Eryri yw Llyn Du'r Arddu. Saif y llyn, sydd ag arwynebedd o 5 acer, rhyw 1 km i'r gogledd o gopa'r Wyddfa, islaw Clogwyn Du'r Arddu. O'r llyn mae Afon Arddu yn llifo tua'r gogledd trwy Cwm Brwynog ac yn ymuno ag Afon Hwch cyn llifo trwy bentref Llanberis. Mae wedyn yn llifo i mewn i'r afon sy'n cysylltu Llyn Peris a Llyn Padarn.

Llyn Du'r Arddu
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.080523°N 4.090421°W Edit this on Wikidata
Map
Llyn Du'r Arddu a Chlogwyn Du'r Arddu

Ceir rhywfaint o frithyll yn y llyn, ond nid ystyrir ei fod yn cynnig pysgota da. I'r dwyrain o'r llyn mae gweddillion cloddfa gopr Clogwyn Coch.

Llyfryddiaeth golygu

  • Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)

Gweler hefyd golygu