Gŵr Blewog
Bod annaearol yn llên gwerin Cymru sy'n fath o ddyn gwyllt neu gawr yw'r Gŵr Blewog (amrywiad : Y Gŵr Blew). Fe'i cysylltir ag ardal Nant Gwynant yn Eryri mewn chwedl werin o'r nant hwnnw. Dywedir bod y Gŵr Blewog yn byw mewn ogof ac yn ysbeilio trigolion yr ardal.
Ar un achlysur penderfynodd gwraig Hafod y Llan gadw golwg amdano ac arosodd ar ei thraed un nos yn y gaeaf ar ôl i bawb arall fynd i gysgu. Am hanner nos clywodd dwrw yn y ffenestr ac aeth i weld beth oedd yn bod gyda bwyall yn ei llaw i amddiffyn ei hun. Gwelodd y Gŵr Blewog, a oedd hanner ffordd trwy'r ffenestr, y wraig yn dod a cheisiodd ddianc, ond trawodd y wraig ei fraich â'r bwyall a ffoes y creadur gan adael ei fraich ar ôl. Trannoeth y bore, cafwyd hyd i olion gwaed yn yr eira yn arwain at ogof gudd, ond roedd y Gŵr Blewog wedi diflannu.
Mewn fersiwn arall o'r chwedl, hefyd o Nant Gwynant, cyfeirir at y creadur fel y Gŵr Blew. Roedd yn byw mewn ogof ger Bwlch Mwlchan, tua milltir a hanner yn uwch na Dinas Emrys. Ceisir rhesymoli'r chwedl trwy wneud y Gŵr Blew yn filwr estron a adawyd yn yr ardal ar ôl cyrch aflwyddiannus. Cuddiodd mewn ogof yn y goedwig a bu'n fyw ar ladrata yn y nos. Tyfodd cnwd o flew drosto fel eidion, ac roedd y golwg arno'n ddychrynllyd. Yn y fersiwn hon, daw'r creadur un nos i ffermdy Ty'n 'rowallt. Cael ei ddal yn y ffenestr eto gan wraig y tŷ gyda bwyall a thorri ei law i ffwrdd ganddi. Ar ôl methu cael y Gŵr allan o'i ogof ceisiwyd ei foddi yno trwy droi ffrwd i geg yr ogof. Dihangodd y creadur dros lethrau'r Lliwedd fel milgi, yn rhy gyflym i'w saethu. Yn nes ymlaen, cafwyd sibrydion ei fod yn byw mewn ogof arall yn ymyl Maen Du'r Arddu, ond dihangodd eto am ei fywyd i gael lloches o'r diwedd ar lethrau'r Cnicht, ger Nanmor.
Yn y chwedl ceir adlais o'r chwedl ganoloesol am y grafanc flewog sy'n ceisio dwyn ebol Teyrnon Twrf Fliant trwy'r ffenestr yn Pwyll Pendefig Dyfed, y gyntaf o'r Pedair Cainc.
Yn ogystal, gellid cymharu'r chwedlau hyn â'r traddodiadau am ddynion gwyllt neu greaduriaid lled-ddynol fel yr Yeti yn yr Himalaya.
Llyfryddiaeth
golygu- John Jones (Myrddin Fardd), Llên gwerin Sir Gaernarfon (Caernarfon, 1908)
- T. Gwynn Jones, Welsh Folklore and Folk-custom (D. S. Brewer, adarg. 1979)