Llyn bychan sy'n safle henebion o Oes yr Efydd ydy Llyn Eiddew Bach, ger Talsarnau, Gwynedd; cyfeiriad grid SH 645 349 ac SH 643 344. Mae'r rhain yn cynnwys dwy garnedd gylchog a charnedd ymylfaen. Gerllaw ceir Llyn Eiddew Mawr.

Llyn Eiddew Bach
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolRhinogydd Edit this on Wikidata
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
GerllawLlyn Eiddew Mawr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.890514°N 4.014873°W Edit this on Wikidata
Map

Carneddau cylchog

golygu

Math o garnedd gynhanesyddol a godwyd gan y Celtiaid ydy “carnedd gylchog”. (Saesneg: ring cairn); fe'i codwyd i nodi mangre arbennig, ar gyfer defodau neu i goffau'r meirw, a hynny yn Oes yr Efydd, mae'n debyg. Ni ddylid cymysgu'r math hwn gyda chylch cerrig, sy'n perthyn i oes wahanol. Caiff ei nodi ar fapiau'r Ordanance gyda'r gair 'Cairn'. Sylwer, hefyd, mai “carnedd gylchog” ydy'r term sy'n cael ei ddefnyddio yng ngeiriadur yr Academi, yn hytrach na "charnedd gylch". Cofrestrwyd y ddwy garnedd gylchog, gan Cadw, gyda'r rhifau SAM: ME209 a ME210.[1]

Carnedd ymylfaen

golygu

Mae carnedd ymylfaen Llyn Eiddew Bach yn dyddio'n ôl i Oes yr Efydd; cyfeiriad grid SH639344. Arferai'r cerrig gynnal tomen o bridd a beddrod yn eu canol, ond fod amser wedi treulio'r pridd gan adael ysgerbwd o gerrig. Dylid cofio nad cylch cerrig fel y cyfryw ydynt, fodd bynnag. Mae'n bosibl i seremoniau neu ddefodau hefyd gael eu cynnal ar y safle.[1] Mae'r heneb hon wedi'i chofrestru gan Cadw gyda'r rhif SAM: ME060.

Cyfeiriadau

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato