Mae Llyn George yn llyn ym Mynyddoedd Adirondack yn Nhalaith Efrog Newydd, yr Unol Daleithiau, rhwng dyffrynnoedd Afon Hudson ac Afon St Lawrence, a rhwng Albany, yn nhalaith Efrog Newydd, a Montréal, Canada. Mae’r llyn tua 32 milltir o hyd, rhwng 1 a 3 milltir o led, gyda dyfnder o 187 troedfedd.[1] Mae dŵr y llyn yn mynd i Afon La Chute ac wedyn i Lyn Champlain, cyn ymuno ag Afon St Lawrence. Dwfnder mwyaf y llyn yw 196 troedfedd. Mae sawl bae, gan gynnwys Bae Basin, Bae Kattskill, Bae Northwest, Bae Onieda a Bae Silver. Mae dros 170 o ynysoedd, 148 ohonynt yn eiddo i’r dalaith. Mae trwyddedau gwersylla ar gael ar gyfer y mwyafrif. Ystyrir pen gogleddol y llyn i fod yn rhan o ddyfryn Champlain, sy’n cynnwys Llyn Champlain ac hefyd Plattsburgh a Burlington, Vermont.

Llyn George
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirWarren County Edit this on Wikidata
GwladBaner UDA UDA
Arwynebedd114 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr97 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.6222°N 73.5467°W Edit this on Wikidata
Hyd52 cilometr Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddMynyddoedd Adirondack Edit this on Wikidata
Map
Y llong "Mohican" ar y llyn

Rhywogaethau ymledol

golygu

Mae 6 o rywogaethau ymledol yn y llyn, yn cynnwys y gragen asiaidd, Myrddail, y Malwod ddirgelwch tseiniaidd, Dyfrllys crych, Chwannen ddŵr bigog a’r Gragen las resog.[2]

Rhoddwyd yr enw Andia-ta-roc-te i’r llyn gan bobl brodorol yr ardal. Gwelwyd y llyn gan Samuel de Champlain ar 3 Gorffennaf 1609. Rhoddwyd yr enw Lac du Saint-Sacrement gan Isaac Jogues, cenhadwr Ffrengig-Canadiaidd. Rhoddodd yr enw “La Chute” i’r afon sy’n llifo o’r llyn.[3] Ail-enwyd y llyn i fod “Llyn George” ar ôl Brenin Siors II o Brydain ar 28 Awst 1755 gan Syr William Johnson, arweinydd milwyr Prydeinig yn ystod y Rhyfel Ffrengig ac Indiaidd[4]

Ysgrifennodd Thomas Jefferson lythyr at ei ferch, yn cynnwys y brawddeg:”"Lake George is without comparison, the most beautiful water I ever saw; formed by a contour of mountains into a basin... finely interspersed with islands, its water limpid as crystal, and the mountain sides covered with rich groves... down to the water-edge: here and there precipices of rock to checker the scene and save it from monotony."Yn ystod y 19eg a 20fed ganrif cynnar, ymwelwyd y llyn gan arlunwyr enwog, megis Martin Johnson Heade, John F. Kensett, E. Charlton Fortune, Frank Vincent DuMond a Georgia O'Keeffe.

Damwain Ethan Allen

golygu

Roedd damwain ar y llyn ar 2 Hydref 2005; bu farw 20 o’r 47 o deithwyr pan suddodd yr “Ethan Allen” ar y llyn. Er roedd y cwch addas i gario 50 o bobl pan adeiladwyd y cwch ym 1966, roedd cynllun y cwch wedi newid yn ddiweddarach, ac roedd o’n addas i ond 14 o bobl erbyn 2005.[5][6]

Yr ardal

golygu

Twristiaeth

golygu

Denwyd teuluoedd cyfoethog i’r ardal yn ystod y 1800au hwyr a 1900au cynnar, megis y teuluoedd Roosevelt, van Rensselaer, Vanderbilt, Rockefeller a Whitney. Agorwyd y Gwesty Fort William Henry a Gwesty Sagamore yn ystod y cyfnod.

Agorwyd YMCA Silver Bay ar lan y llyn ym 1900, a YMCA Camp Chingachcook ym 1913.

Mae’n bosibl cyrraedd y llyn ar Ffordd I-87, ac mae Maes Awyr Rhyngwladol Albany, sy’n 45 milltir i ffwrdd.

Mae’r ardal yn dal un boblogaidd hyd at heddiw ar gyfer gersylla, hwylio, teithiau cerdded a siopa. Mae gŵyl falwnio bob mis Medi yn Queensbury, Efrog Newydd.

Gwariwyd tua 2 filiwn o bunnau’n flynyddol oherwydd presenoldeb y llyn.

Millionaires' Row

golygu

Mae Millionaires' Row ar lan orllewinol y llyn, lle mae pobl cyfoethog wedi adeiladu plastai swmpus, gyda dwsinau o ystafelloedd. Erbyn y 1970au roedd llawer ohonynt wedi dod yn westai neu dai bwyta, er bod rhai yn goroesi fel oeddynt.

lluniau

golygu

Peintiadau

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Gwefan dec.ny.gov". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-11-01. Cyrchwyd 2021-10-06.
  2. Cymdeithas y llyn[dolen farw]
  3. "Gwefan Cymdeithas Hanesyddol Llyn George". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-17. Cyrchwyd 2021-11-05.
  4. ‘The Origin of Certain Place Names in the United States’ gan Henry Gannett, tud 135/6
  5. [http://www.timesunion.com/specialreports/capsize/ Gwefan Y Times Union, papur newydd Albany
  6. Gwefan y New York Times5 Chwefror, 2007

Dolen allanol

golygu