Llyn Great Salt
Llyn yn nhalaith Utah yn yr Unol Daleithiau yw Llyn Great Salt[1] (Saesneg: Great Salt Lake). Saif i'r gorllewin o Salt Lake City ar uchder o 1,280 medr uwch lefel y môr.
Math | hypersaline lake, llyn hallt |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Utah |
Gwlad | UDA |
Arwynebedd | 4,400 km² |
Uwch y môr | 1,283 metr |
Cyfesurynnau | 41.1667°N 112.5833°W |
Dalgylch | 55,685 cilometr sgwâr |
Hyd | 120 cilometr |
Mae'r llyn tua 120 km o hyd a 48 km o led, gydag arwynebedd o tua 5,100 km2, er bod y mesuriadau hyn yn amrywio yn ôl lefel y dŵr. Ceir 27% o halen yn ei ddyfroedd, lefel uwch nag yn nŵr y môr. Y rheswm am hyn yw nad oes unrhyw afon yn llifo allan o'r llyn. Dim ond y Môr Marw sy'n fwy hallt.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 64.