Môr Marw
Mae'r Môr Marw (Hebraeg: ים המלח; Arabeg: البحر الميت) yn fôr cyfandirol a leolir rhwng y Lan Orllewinol, Israel a Gwlad Iorddonen yn y Dwyrain Canol. Mae ei ddyfroedd yn hallt iawn (30% o halen), sy'n ei wneud yn fwy hallt nag unrhyw bwll arall o ddŵr yn y byd (dros wythwaith mwy hallt na'r môr ar gyfartaledd), a heb fod yn medru cynnal bywyd.
![]() | |
Math |
endorheic lake, hypersaline lake ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
810 km² ![]() |
Uwch y môr |
−428 ±1 metr ![]() |
Cyfesurynnau |
31.5°N 35.5°E ![]() |
Llednentydd |
Nahal Mishmar, Arabah, Arnon, Arugot Stream, Tze'elim Stream, Wadi Og, David Stream, Wadi Murabba'at, Nahal Hever, Ashalim Wadi, Bokek spring, Nahal Zin, Q12039655, Q12039696, Naẖal Ẕeruya, Nahal Ye'elim, Q12039905, Q12039976, Q12039993, Q12040014, Q12040062, Q12040076, Q12040100, Nachal Zohar, Afon Iorddonen ![]() |
Dalgylch |
41,650 cilometr sgwâr ![]() |
Hyd |
67 cilometr ![]() |
![]() | |
Ei arwynebedd yw 1050 km² (400 milltir sgwâr), ei hyd yw 67 km (42 milltir) a'i led yw 18 km (11 milltir). Mae Afon Iorddonen yn rhedeg i mewn iddo ond does dim afon yn llifo ohono a dyna pam fod cymaint o halen yn y dŵr. Fe'i gelwir Y Môr Marw nid yn unig gan nad oes bywyd ynddo ond gan ei fod mor llonydd, fel rheol. Oherwydd ei fod mor hallt mae pobl yn medru arnofio ar wastad eu cefnau arno heb drafferth yn y byd.
'Môr y Rhos' (Môr y Gwastadeddau) neu'r 'Môr Heli' yw'r enwau arno yn y Beibl. Cyfeirir ato am y tro cyntaf yn Llyfr Genesis. I'r gorllewin ohono yr oedd teyrnas Moab a dinas Nebo.