Llyn Irddyn

llyn, Gwynedd, Cymru

Llyn yn y Rhinogydd yng Ngwynedd yw Llyn Irddyn neu Llyn Erddyn, weithiau Llyn y Derwydd. Saif y llyn, sydd ag arwynebedd o 23 acer, ychydig i'r de-orllewin o Lyn Bodlyn a llechweddau Diffwys. Mae 1,029 troedfedd uwch lefel y môr.

Llyn Irddyn
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.779694°N 4.032658°W Edit this on Wikidata
Map
Llyn Irddyn

Mae'r nant sy'n llifo o'r llyn yn ymuno ag Afon Ysgethin. Ceir nifer o henebion yn yr ardal, ac mae traddodiau am y Tylwyth Teg o'i gwmpas. Dywedid fod rhaid un ai gerdded ar laswellt neu gario glaswellt neu gnoi ar llaswellt pan yn cerdded ar lan y llyn; roedd hyn yn amddiffyniad rhag i berson gael ei lusgo i mewn i'r llyn gan y Tylwyth Teg.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: