Afon Ysgethin
Afon yn ne Gwynedd yw Afon Ysgethin (hefyd Sgethin weithiau ar lafar; Seisnigiad: Scethin). Mae'n afon fer, yn tarddu fel nant yn llifo o Lyn Dulyn, ychydig i'r gogledd o gopa Diffwys i mewn i Lyn Bodlyn. Mae'n croesi pont hanesyddol Pont 'Sgethin cyn llifo tua'r de-orllewin a thrwy bentref Tal-y-bont cyn cyrraedd y môr ym Mae Ceredigion ychydig i'r gorllewin o Dal-y-bont.
Afon Ysgethin yn llifo dan Bont Ysgethin | |
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.77677°N 4.1148°W |
Ger lan yr afon, tuag 1 filtir i'r dwyrain o bentref Dyffryn Ardudwy, ceir plasdy hynafol Corsygedol, aelwyd y Fychaniaid, rhai o noddwyr pwyaicaf y beirdd yn y rhan yma o'r wlad.