Llyn Llygeirian
llyn
Llyn ym mhlwyf Llanfechell yng ngogledd Ynys Môn yw Llyn Llygeirian. Saif i'r dwyrain o'r briffordd A5025 ac i'r gorllewin o bentref Mynydd Mechell.
Math | llyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.378619°N 4.487477°W |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Mae'r llyn, sydd ag arwynebedd o 11.1ha (29.8 acer), yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd presenoldeb rhai rhywogaethau prin o blanhigion dŵr. Fe'i rhennir yn ddau ran gan gob ar yr ochr ddwyreiniol. Mae Afon Cafnan yn tarddu yn y llyn.