Llyn Lockwood
cronfa ddŵr yng nghymuned Beddgelert
Llyn bychan yn Eryri yw Llyn Lockwood, a leolir ger bwlch Pen-y-gwryd yng nghymuned Beddgelert, Gwynedd ond yn agosach i bentref Capel Curig yn Sir Conwy, bron iawn ar y ffin sirol rhwng Conwy a Gwynedd.
Math | cronfa ddŵr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Beddgelert |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 0.0233 km² |
Uwch y môr | 265 metr |
Cyfesurynnau | 53.082679°N 3.999009°W |
Cod OS | SH663000558000 |
Llyn artiffisial yw Llyn Lockwood, sydd wedi ei enwi ar ôl un o gyn-berchenogion Gwesty Pen-y-gwryd, a adeiladodd yr argae i greu'r llyn er mwyn cael llyn pysgota brithyll ar gyfer ei westeion. Does dim afon yn llifo o'r llyn, er bod Nant Gwryd yn mynd heibio yn agos iddo.
Heb fod ymhell o'r llyn, mae olion caer Rufeinig dros dro, y math ar gaer a ddefnyddiai byddin Rufeinig dros nos pan ar ymgyrch.