Agor y brif ddewislen

Pentref a chymuned yng Ngwynedd yw Beddgelert ("Cymorth – Sain" ynganiad ); Cyfeirnod OS: SH 59157 48176. Fe'i lleolir ar lecyn deniadol iawn yng nghanol Eryri. Saif ger aber Afon Glaslyn ac Afon Colwyn. Fymryn islaw'r aber rhed yr afon dan hen bont gerrig â dau fwa yng nghanol y pentref. Mae nifer o'r tai a'r gwestai wedi'u hadeiladu o gerrig tywyll lleol. I'r gorllewin mae Moel Hebog a'i chymdogion ac i'r gogledd ceir cyfres o fryniau sy'n codi i ben Yr Wyddfa. Mae lôn yr A4085 rhwng Caernarfon (13 milltir i'r gogledd) a Porthmadog (8 milltir i'r de) yn rhedeg trwy'r pentref. Mae lôn arall yn arwain i galon mynyddoedd Eryri trwy Nant Gwynant i Ben-y-gwryd, ac ymlaen i Gapel Curig neu Llanberis.

Beddgelert
Beddgelert from Mynydd Sygun.jpg
Math Cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodol Parc Cenedlaethol Eryri Edit this on Wikidata
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.0118°N 4.1025°W Edit this on Wikidata
Cod OS SH591482 Edit this on Wikidata
Cod post LL55 Edit this on Wikidata
Y bont dros Afon Glaslyn ym Meddgelert.
Bedd Gelert
Golygfa o Feddgelert, 1814
Egwys y Santes Fair
Ffenest, Croes Celtaidd a'r haul drwy'r ffenestr oddi fewn i Egwys y Santes Fair.

Y fynachlog a'r eglwysGolygu

Prif erthygl: Priordy Beddgelert

Ger canol y pentref saif Eglwys y Santes Fair ar safle priordy cynharach. Dyma'r Beddgelert gwreiddiol. Hen fynachlog Gymreig oedd hi a sefydlwyd yn ôl traddodiad gan y sant Celert. Yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol newidiodd yn fynachlog Awstinaidd, yn bennaf er mwyn ceisio gwrthsefyll hawliau abaty Sistersiaidd Aberconwy i dir yn yr ardal.

Mae'r eglwys bresennol yn ddiweddarach, ond mae'n cynnwys rhannau o gapel yr hen briordy, yn arbennig dau fwa cerrig a ffenestr lanset hardd sy'n perthyn i'r 13g. Atgyweiriwyd yr eglwys yn sylweddol yn 1882.

Chwedl GelertGolygu

Prif erthygl: Chwedl Gelert

Cysylltir Beddgelert â "Chwedl Gelert". Yn ôl y stori boblogaidd, cafodd y pentref ei enwi ar ôl un o hoff fytheiad Llywelyn Fawr, Gelert, a gladdwyd yno. Ychwanegwyd at yr hen stori hon, yn ôl pob tebyg, gan dafarnwr lleol, yn y 18ed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif, er mwyn denu ymwelwyr i'r pentref. Cododd David Prichard, tafarnwr y Goat a dyfeisiwr y chwedl, ddwy garreg ar lan Afon Glaslyn i nodi safle bedd Gelert.[1] Ceir chwedlau cyffelyb mewn sawl diwylliant arall ac mae'r thema yn cael ei hadnabod fel motif llên gwerin rhyngwladol.

Posibilrwydd arall yw mai ar ôl y sant cynnar o'r enw Celert yr enwyd y pentref. Gelwir bwthyn ger y bont yn 'Fwthyn Llywelyn' hefyd, ond mae'n dyddio o'r 17g.

Carreg Fellt BeddgelertGolygu

Ym mis Medi 1949 disgynnodd carreg fellt (meteorite) ar westy'r Prince Llywelyn yn yr oriau mân, gan ddifrodi to'r gwesty ac ystafell wely yno. Disgrifiodd yr Herald Cymraeg y digwyddiad fel "dirgelwch".

Yn ddiweddarach gwerthodd perchennog y gwesty hanner y garreg i'r Amgueddfa Brydeinig a'r hanner arall i Brifysgol Durham a oedd wedi gosod hysbysebion yn y papurau lleol yn gofyn am wybodaeth o'r digwyddiad ac yn cynnig gwobr ariannol am hynny.[2]

Dyma ran o adroddiad "sgwp" y gohebydd Dyfed Evans yn Y Cymro ar y pryd:

....Yn ffodus, disgynnodd ar yr unig ystafell wag i fyny'r grisiau [yng Ngwesty'r Prince Llywelyn]. Cysgai'r gwesteion heb wybod dim am y garreg pum pwys, chwe modfedd o rownd, a faluriodd nenfwd y 'lounge' ar yr un llawr. Yr oedd Mr a Mrs Alwyn Maines, ymwelwyr o Sir Gaerhirfryn, o fewn pedair llath i'r lle disgynnodd - a chysgasant drwy'r holl helynt. Clywyd ergydion gan amryw o drigolion y cylch o Borthmadog i Feddgelert. Wedi tynnu'r llenni i'r naill du ac agor y ffenestr led y pen yn ôl ei arfer, gorweddai Mr. Ephraim Williams, Danw Deg, Llanfrothen yn effro yn ei wely yn y plygain. Yr oedd yn noson loergan ddigwmwl a tharanau y pethau ola f a feddyliai amdanynt. Am dri munud ar ddeg i dri clywodd ergydion yn yr awyr ond o godi i'r ffenestr ni welai neb. Ni allasai ddirnad beth oedd y swn, ond rhyfeddai na fuasai holl drigolion y pentref wedi codi.
Yn y gwesty ym Meddgelert deffrowyd Mr a Mrs W. Tillotson, y perchnogion, gan ergydion fel bomiau'n ffrwydro. Cyfarthodd Rex eu ci defaid, ond ni ddeallwyd am y difrod nes daeth eu morwyn, Mrs Kate Williams, i lawr yn y bore. Ar y dechrau, tybiai Mr. Tillotson mai darn o'r mynydd sy'n codi'n syth tu cefn i'r gwesty, oedd y garreg, ond yr oedd yn amlwg iddi fod mewn tân. I'r llygad anghyfarwydd ymddengys y garreg fel craig ithfaen wyrddlas a geir yn gyffredin yn rhai chwareli Gogledd Cymru ond adwaenai Dr. E.V. Rieu (cymrawd o'r Gymdeithas Ddaearegol Frenhinol a arhosai yn y gwesty), hi fel craig "peridotite" - rhan o seren wib.[3]

Wrth ymweld â'r arddangosfa fechan a drefniwyd gan Brifysgol Caerdydd i ddathlu hanes taranfollt Beddgelert yn Neuadd Gymunedol y Pentref ar y 19eg Medi eleni llwyddodd gohebwyr mentrus Llên Natur (!) i gael yr hanes gan un o drigolion y pentref sydd yn cofio'r digwyddiad yn dda. Os am glywed y cyfweliad gyda Mrs. Eira Taylor ewch i wefan Llên Natur[1].

Cyfeirir at y garreg fellt hon fel y "Beddgelert meteorite" yn y papurau gwyddonol. Dyma'r ail garreg fellt yn unig i daro'r ddear yng Nghymru erioed - disgynnodd y gyntaf ym Mhontllyfni ym 1931 - rhyw bymtheg milltir i ffwrdd ar ben arall crib Nantlle.

Atyniadau a hynafiaethau yn yr ardalGolygu

  • Dinas Emrys - bryngaer a chastell a gysylltir â chwedl Myrddin a'r brenin Gwrtheyrn
  • Bwthyn Llywelyn, neu Tŷ Isaf fel y'i gelwir heddiw - tŷ hynaf Beddgelert
  • Mwynglawdd Sygn - hen gloddfa copr
  • Pont Aberglaslyn - mae llwybr deniadol yn dilyn cwrs hen reilffordd o Feddgelert i'r bont, gan ddilyn glan Afon Glaslyn

Gweler hefydGolygu

Cyfrifiad 2011Golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Beddgelert (pob oed) (455)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Beddgelert) (231)
  
52%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Beddgelert) (230)
  
50.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Beddgelert) (92)
  
42.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

CyfeiriadauGolygu

  1. Gwyddoniadur Cymru, Gwasg Prifysgol Cymru, 2008, tudalen 370.
  2. http://www.jonesbryn.plus.com/wastronhist/meteorites.html
  3. Dyfed Evans, Y Cymro, Medi 1949
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: