Brithyll
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Actinopterygii
Urdd: Salmoniformes
Teulu: Salmonidae
Genws: Salmo
Rhywogaeth: S. trutta
Enw deuenwol
Salmo trutta
Linnaeus, 1758

Mae'r brithyll yn perthyn i deulu'r eog. Pysgodyn o Ewrop ac Asia ydyw, ond mae wedi cael ei gyflwyno i Ogledd America, De America, Awstralia a Seland Newydd.

Brithyll sy'n treulio rhan fwyaf ei oes yn y môr yw'r siwin (neu sewin, brithyll y môr). Cafodd ei enw gan fod smotiau (brith) coch a du drosto. Yn y 13 - 14 ganrif dywedwyd yn ysgrifau Peniarth gan rywun, "Tebyg wyf i frithyll...". Ceir hefyd fath o frithyll sy'n dwyn yr enw 'brithyll brith' (sef, yn Saesneg, spotted trout). Brithyll môr yw sea trout a brithyll y dom ydy'r stickleback.

Llên Gwerin golygu

  • Blodyn samon

Mewn rhai llefydd, dywedir ar lafar gwlad bod yn rhaid aros am y blodyn samon i flodeuo (sef bysedd y cwn; Digitalis purpurea), cyn y bydd y gwyniad neu’r siwin yn rhedeg.[1]

Fideo fer o frithyll yn neidio i fyny rhaeadr, ar un o afonydd Cymru.
  • Pysgodyn Iesu Grist
“Mae gennyf gof o hen ŵr o’r Blaenau yn sôn am ‘bysgod Iesu Grist’ wrthym un tro a ninnau yn methu a deall pam y gelwid nhw wrth yr enw hwn, a dyma beth ddywedodd – ‘os edrychwch chi ar eu cyrff y mae ôl bodiau’r Iesu arnynt, sef marciau tebyg i fodiau dynol ar eu hochrau’.” Steffan ab Owain[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Ifor Williams yn dyfynnu’r pysgotwr eog o Gaernarfon Tony Lovell ym Mwletin Llên Natur rhifyn 53 [1]
  2. Bwletin Llèn Natur rhifyn 58