Llyn Onega
Llyn yng ngogledd-orllewin Rwsia a llyn ail fwyaf Ewrop yw Llyn Onega (Rwsieg Онежское озеро / Onezhskoe ozero; Kareleg Ääninen neu Äänisjärvi). Mae ei arwynebedd yn gorchuddio 9,894 km2. Ar ei ddyfnaf, ei ddyfnder yw 120m. Mae'n cynnwys 1369 o ynysoedd gydag arwynebedd o 250 km2. Mae 58 is-afon yn llifo i mewn iddo. Y prif is-afonydd yw'r Shuya, Suna, Vodia a'r Andoma. Lleolir Petrozavodsk, prifddinas Gweriniaeth Karelia ar lannau gorllewinol y llyn. Mae Karelia yn amgylchynu'r llyn ar dair ochr (yn y gogledd, y gorllewin a'r dwyrain). Yn y de, mae'n ffinio ag Oblast Leningrad yn y gorllewin ac Oblast Vologda yn y dwyrain.
![]() | |
Math |
llyn ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
Unified Deep Water System of European Russia ![]() |
Sir |
Petrozavodsk, Karelia ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
9,800 km² ![]() |
Uwch y môr |
33 metr ![]() |
Cyfesurynnau |
61.6906°N 35.6556°E ![]() |
Dalgylch |
62,800 cilometr sgwâr ![]() |
Hyd |
248 cilometr ![]() |
![]() | |
Saif pogost Kizhi ('lloc, amgaead Kizhi'), Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, ar Ynys Kizhi yn y llyn. Adeiladwyd dwy egwlys bren yno yn yr 18g, ac ychwanegwyd chlochdy pren wyth ochr yn 1862.