Llyn Ontario
Un o'r Llynnoedd Mawr yng Ngogledd America yw Llyn Ontario (Saesneg: Lake Ontario). Daw'r enw o'r iaith Huron ontarío, yn golygu "llyn mawr". Ef yw'r lleiaf o'r pum Llyn Mawr o ran arwynebedd, er ei fod yn fwy na Llyn Erie o ran y crynswth o ddŵr ynddo. Saif Llyn Ontario ar y ffîn rhwng Canada a'r Unol Daleithiau. Yn y gogledd a rhan o'r de mae'n ffinio ar dalaith Ontario, Canada, ac yn y de ar dalaith Efrog Newydd yn yr Unol Daleithiau. Mae ei arwynebedd yn 19,529 km2 a'i hyd yn 388 km.
![]() | |
Math |
llyn ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
Y Llynnoedd Mawr ![]() |
Sir |
Ontario, Efrog Newydd ![]() |
Gwlad |
Canada, Unol Daleithiau America ![]() |
Arwynebedd |
18,529 km² ![]() |
Uwch y môr |
74.1 metr ![]() |
Cyfesurynnau |
43.7°N 77.9°W, 43.7289°N 78.1064°W ![]() |
Dalgylch |
690,000 cilometr sgwâr ![]() |
Hyd |
311 cilometr ![]() |
![]() | |
Llifa Afon Niagara i'r llyn o Lyn Erie, ac mae Afon St Lawrence yn llifo allan o'r llyn. Ceir nifer o ynysoedd yn y llyn; y fwyaf yw Ynys Wolfe. Ymhlith y dinasoedd ar lan y llyn mae Toronto a Hamilton ar ochr Canada a Rochester ac Oswego, ar ochr yr Unol Daleithiau.