Llyn Peipus
Llyn mawr ar y ffin rhwng Estonia a Rwsia yw Llyn Peipus (Estoneg Peipsi-Pihkva järv; Rwsieg Чудско-Псковское озеро / Chudsko-Pskovskoe ozero; Almaeneg Peipussee). Fe yw'r pumed llyn o ran maint yn Ewrop, ag arwynebedd o 3,500 km², a'r llyn mwyaf yn Ewrop sy'n gorwedd ar ffin dwy wladwriaeth.
Math | llyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Estonia Rwsia |
Arwynebedd | 3,543 km² |
Uwch y môr | 30 metr |
Cyfesurynnau | 58.6767°N 27.4917°E |
Dalgylch | 47,800 cilometr sgwâr |
Hyd | 143 cilometr |
Mae tair rhan i'r llyn:
- Llyn Peipsi/Chudskoe (Estoneg: Peipsi järv, Rwsieg: Чудское озеро) ydyw rhan ogleddol y llyn, 2670 km² o ran maint.
- Llyn Pihkva/Pskovskoe (Estoneg: Pihkva järv, Rwsieg: Псковское озеро) ydyw rhan ddeheuol y llyn, 710 km² o ran maint.
- Llyn Lämmi/Teploe (Estoneg: Lämmijärv, Rwsieg: Тёплое озеро) ydyw'r stribyn sy'n cysylltu'r ddwy ran fawr, 170 km² o ran maint.