Llyn Sélingué
Llyn artiffisial gyda arwynebedd o 409 km² yn Rhanbarth Koulikoro ym Mali yw Llyn Sélingué. Cafodd ei greu ar ôl i argae trydan dŵr Sélingué gael ei hadeiladau ar afon Sankarani. Mae ei fraich de-orllewinol yn ffurfio'r ffin rhwng Mali a Gini.
Pysgota â rhwydau ar Lyn Sélingué | |
Math | cronfa ddŵr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sikasso |
Gwlad | Mali |
Arwynebedd | 409 km² |
Cyfesurynnau | 11.62°N 8.23°W |
Ers ei greu mae dyfroedd y llyn wedi gwella cyflwr amaethyddiaeth yn yr ardal. Pysgotir y llyn gan tuag 8,000 o bobl leol gyda rhan helaeth y pysgod yn cael eu hanfon i'w werthu ym marchnad Bamako.