Saif Llyn Tekapo ar Ynys y De, Seland Newydd; mae'n 83 km sgwâr (32 milltir sg) ac 710 metr (2,330 tr) yn uwch na lefel y môr. Llifa Afon Godley o gyfeiriad y gogledd i'r llyn, dyma afon sydd a'i tharddiad yn Alpau Deheuol Seland Newydd (Māori: Kā Tiritiri-o-te-Moana). Mae'r llyn yn rhan o 'Warchodfa Wybren Dywyll' UNESCO ac yn atyniad twristaidd poblogaidd gyda nifer o westai mawr yn y dref a elwir hefyd yn 'Llyn Tekapo'.[2].

Llyn Tekapo
Llyn Tekapo
Lleoliad Llyn Tekapo.
LleoliadMackenzie District, Canterbury Region, Ynys y De
Cyfesurynnau43°53′S 170°31′E / 43.883°S 170.517°E / -43.883; 170.517Cyfesurynnau: 43°53′S 170°31′E / 43.883°S 170.517°E / -43.883; 170.517
Prif fewnlifAfon Godley (i'r gog.), Afon Macauley (i'r gog.), Afon Mistake (gor.), Afon Cass River (gor.)[1]
Prif afonAfon Tekapo
Aber neu fasn1,463 km2 (565 mi sgw)[1]
Aber neu fasnSeland Newydd
Hyd27 kilometre (17 mile)[1]
Lled6 km (3.7 mi) (uchafswm), 3.5 km (2.2 mi) (cymedr)[1]
Arwynebedd87 km2 (34 mi sgw) (haf), 82 km2 (32 mi sgw) (gaeaf),[1]
Dyfnder cyfartalog69 m (226 ft)[1]
Dyfnder (mwyaf)120 m (390 ft)[1]
Cyfaint y dŵr6km³ (4.9×106 acr·tr)[1]
Uchder lefel y dŵr710 m (2,330 ft)
Anheddiad/auLake Tekapo (tref)
Ffynhonnell[1]

At lan y llyn saif Eglwys y Bugail Da,[3] a adeiladwyd ym 1935 ac a gynlluniwyd gan R.S.D.Harman. Gerllaw ceir 'Cerflun y Ci Defaid', a gynlluniwyd gan Elliott Innes o Kaikoura.

Eglwys y Bugail Da
Cerflun y Ci Defaid

Ynni o'r dŵr golygu

Mae'r llyn yn cyflenwi dŵr i orsafoedd pŵer Tekapo 'A' a 'B'.

Yn 1938 cychwynwyd ar y gwaith o greu pwerdy i gynhyrchu trydan o ynni'r dŵr; gohiriwyd y gwaith yn 1942 oherwydd y Rhyfel ond cwbwlhawyd "Tekapo A" yn 1951.

Dargyfeirir llif yr afon, bellach, drwy dwnel 1.4-kilometre (4,600 ft) o dan y dref ac i'r pwerdy, ac yna'n ôl i'r afon. Yn y 1970au crewyd argaeau drwy Seland Newydd ac mae'r afon bellach yn llifo i gamlas 26-kilometre (16 mi) ac i mewn i bwerdy Tekapo B ar lan Llyn Pukaki.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 1.8 Irwin, J. (September 1978). "Bottom sediments of Lake Tekapo compared with adjacent Lakes Pukaki and Ohau, South Island, New Zealand" (PDF). N.Z. Journal of Marine and Freshwater Research. 12 (3). tt. 245–250. Cyrchwyd 2007-11-09. [dolen marw]
  2. Gwefan newzealand.com
  3. "Gwefan backpackerguide.nz". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-04-15. Cyrchwyd 2017-02-12.