Llyn Treflesg
Mae Llyn Treflesg yn llyn yng ngogledd-orllewin Ynys Môn.
Math | llyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.263538°N 4.538838°W |
Saif y llyn gerllaw pentref Llanfihangel yn Nhowyn a maes awyr RAF y Fali, sy'n eiddo i'r Llu Awyr Brenhinol. Ceir nifer o lynnoedd eraill gerllaw, megis Llyn Dinam, Llyn Penrhyn, Llyn Cerrig Bach a Llyn Traffwll. Mae Llyn Treflesg yn eiddo i'r RSPB, ac yn ffurfio rhan o warchodfa adar Gwlyptiroedd y Fali; mae amrywiaeth o adar dŵr yn magu yno.