Llyn yng ngogledd Cenia, yn cyrraedd hyd at Ethiopia yn y gopledd, yw Llyn Turkana, gynt Llyn Rudolf.

Llyn Turkana
Delwedd:LakeTurkanaSouthIsland.jpg, Lake Turkana.jpg, Series of lava rock pools at southern end of Lake Turkana.jpg
Mathllyn hallt, llyn caeedig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolParc Cenedlaethol Llyn Turkana Edit this on Wikidata
GwladCenia, Ethiopia Edit this on Wikidata
Arwynebedd6,405 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr360 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau4.05°N 36.02°E Edit this on Wikidata
Dalgylch130,860 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd290 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Mae tair afon, afon Omo, afon Turkwel ac afon Kerio, yn llifo i mewn i'r llyn, ond nid oes yr un afon yn llifo allan. O gwmpas y llyn ceir Parc Cenedlaethol Llyn Turkana, sy'n Safle Treftadaeth y Byd.

Paleoanthropoleg golygu

Mae'r ardal yn enwog fel safle darganfod ffosiliau hominid cynnar ee Homo rudolfensis. Tua 2 filiwn i 3 miliwn o flynyddoedd yn ôl, roedd y llyn yn llawer mwy a'r tir o'i gwmpas yn llawer mwy ffrwythlon. Cafodd Richard Leakey ac eraill hyd i nifer o ffosilau dynol cynnar pwysig yma, er enghraifft yn 1984 cafodd Kamoya Kimeu hyd i "Fachgen Turkana", sgerbwd Homo ergaster ("dyn gweithiol"), bron yn gyflawn.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Beck, Roger B.; Black, Linda; Krieger, Larry S.; Naylor, Phillip C.; Shabaka, Dahia Ibo (1999). World History: Patterns of Interaction. Evanston, IL: McDougal Littell. ISBN 0-395-87274-X.CS1 maint: uses authors parameter (link)