Llys Gwenllian

lleoliad hen gastell yn Sir Ddinbych

Tua tri-chwarter milltir i'r de o Ddinbych, ger Pont Ystrad, saif olion Llys Gwenllian, sef caer neu gastell mwnt a beili. Galwyd y llys am flynyddoedd yn 'Llys Gwenllian' (Cyfeirnod OS: SJ06SE1) ac yn Hen Ddinbych. [1] Dywed rhai mai dyma leoliad gwreiddiol Dinbych.

Llys Gwenllian
Mathcastell mwnt a beili, adfeilion castell Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolCeinmeirch Edit this on Wikidata
SirSir Ddinbych
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.168322°N 3.412992°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ0562064399 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwDE019 Edit this on Wikidata

Mae'r olion a welir heddiw mewn siap petryal ac yn mesur tua 75m wrth 54m.[2] Mae'r mwnt ei hun tua 6.5m o uchder.

Cyflwynodd Llywelyn Fawr (c.1173 – 1240) y tir yn anrheg i'w ferch anghyfreithlon Gwenllian a briododd William de Lacey.[3][4] Yn 1283, flwyddyn wedi lladd y Tywysog Llywelyn ap Gruffudd. Rhoddodd Edward I, brenin Lloegr orchymun i godi'r castell presennol (tua milltir oddi yma) yn ei ymgais o orchfygu Cymru.

Cyfeiriadau golygu

  1. Dictionary of Place-names gan Hywel Wyn Owen a Richard Morgan; Gwasg Gomer, 2008.
  2. coflein.gov.uk; adalwyd 4 Tachwedd 2020, gyda ffos o'i gwmpas.
  3. ffish.com; achau Llywelyn Fawr. Adalwyd 4 Tachwedd 2020.
  4. [1] Mapiau a lluniau lloeren o'r hen lys
  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato