Ceinmeirch

cwmwd canoloesol sydd yn Sir Ddinbych heddiw

Ardal yng ngogledd-ddwyrain Cymru yw Ceinmeirch a fu'n gwmwd canoloesol ac sy'n fro yn Sir Ddinbych heddiw. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn un o dri chwmwd cantref Rhufoniog (yn hanesyddol, fe'i adnabyddir hefyd fel Cymeirch ac weithiau fel Cwmwd Ystrad).

Ceinmeirch
Mathcwmwd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolRhufoniog, y Berfeddwlad Edit this on Wikidata
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
GerllawAfon Clywedog (Clwyd) Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaIs Aled, Rhufoniog, Colion, Dogfeiling Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.170755°N 3.422347°W Edit this on Wikidata
Map

Hanes golygu

Gorweddai cwmwd Ceinmeirch yn ne-ddwyrain cantref Rhufoniog yn y Berfeddwlad rhwng Afon Lliwen ac Afon Clywedog, gan godi o ochr orllewinol Dyffryn Clwyd i gyfeiriad ardal Mynydd Hiraethog.

Ffiniai ag Is Aled yn Rhufoniog i'r gorllewin a chwmwd Colion a rhan o gwmwd Dogfeiling yng nghantref Dyffryn Clwyd i'r dwyrain.

Lleolwyd llys y cwmwd yn Ystrad Owen, lle daw ffrwd fechan i lawr i Afon Ystrad, tua 2 filltir i'r de o dref Dinbych heddiw. Yna y ceid Llys Gwenllian, o fewn Castell mwnt a beili gyda maerdref gerllaw. O Lys Gwenllian rhedai'r Lôn Werdd (y Greenway ar fap yr Ordnans) yn llinyn syth i eglwys Llanrhaeadr.[1]

Yn ddiweddarach daeth yn rhan o Arglwyddiaeth Dinbych ac yna'r hen Sir Ddinbych ac wedyn Clwyd.

Heddiw mae'r rhan fwyaf o'r hen gwmwd yn gorwedd yn Sir Ddinbych gyda rhan fechan ym mwrdeistref sirol Conwy. Mae'r rhan sydd yn Sir Ddinbych yn cael ei adnabod fel bro Ceinmeirch.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Glanville Jones, 'Medieval Settlement', yn The Archaeology of Clwyd (Cyngor Sir Clwyd, 1991), tud. 194.