Llywodraethiaeth Nablus
Mae Llywodraethiaeth Nablus neu Llywodraethiaeth Nablws (Arabeg: محافظة نابلس Muḥāfaẓat Nāblus) yn ardal weinyddol ym Awdurdod Palesteina sydd wedi'i lleoli yn Ucheldir Canolog y Lan Orllewinol, 53 km i'r gogledd o Jerwsalem. Mae'n cwmpasu'r ardal o amgylch dinas Nablus sy'n gwasanaethu fel muhfaza (sedd) y llywodraethiaeth. Mae'n un o'r 16 Llywodraethiaethau Palesteina.
Enghraifft o'r canlynol | llywodraethiaethau Palesteina |
---|---|
Poblogaeth | 320,830, 388,321 |
Gwlad | Palesteina |
Gwladwriaeth | Gwladwriaeth Palesteina |
Rhanbarth | y Lan Orllewinol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn ystod chwe mis cyntaf yr Intifada Cyntaf lladdwyd 85 o bobl yn Llywodraethiaeth Nablws gan fyddin Israel. Hwn oedd y cyfanswm uchaf o holl Lywodraethau'r Lan Orllewinol.[1]
Yn ôl Swyddfa Ystadegau Ganolog Palestina, roedd gan y llywodraethiaeth 388,321 o drigolion yng nghanol 2017. Erbyn 2020 cododd y nifer hon i 407,754 o drigolion.[2]
Demograffeg
golyguMae'r boblogaeth ar gyfartaledd yn ifanc iawn ac mae tua 34.9 y cant yn iau na 15 oed, a dim ond 4 y cant sydd dros 65 oed. Yn 2017, roedd 99.8 y cant o'r boblogaeth yn Fwslim a 0.2 y cant yn Gristnogion neu fel arall. Ni chynhwyswyd preswylwyr aneddiadau Iddewig. Roedd 56.9 y cant o gyfanswm y boblogaeth yn ffoaduriaid yn yr un flwyddyn.[2]
Cyfrifiad | Trigolion[2] |
---|---|
1997 | 261.340 |
2007 | 320.830 |
2017 | 388.321 |
Bwrdeistrefi
golyguDinas
golyguTrefi
golyguMae gan y trefi yma boblogaeth o dros 4,000 o drigolion a chynghorau trefol o rhwng 11 ac 15 aelod.
|
|
|
Cynghorau Pentrefi
golyguMae gan y Llywodraethiaeth 22 y treflannau yma boblogaeth o dros 1,000 o drigolion a chynghorau pentref o rhwng 3 a 9 aelod.
Gwersylloedd Ffoaduriaid
golyguOriel
golygu-
Graffiti gwleidyddol yn ninas Nablus, 2017
-
Golygfa gyffredinol o ddinas Nablus o Ysbyty Prifysgol Genedlaethol An-Najah, yn dangos cymdogaeth Stryd Asira a chymdogaeth Rafidia
-
Nablus - panorama
-
Tref Beita
-
Arwyd ffordd tairieithog i dref Qabalan yn dangos natur wleidyddol yr ardal
-
Gwersyll/Treflan Ffoaduriaid Askar
Dolenni
golygu- Adrannau llywodraethol tiroedd Palesteinaidd
- gwefan Llywodraethiaeth Nablus Archifwyd 2011-01-19 yn y Peiriant Wayback
- [1] Archifwyd 2021-04-20 yn y Peiriant Wayback