Llywodraethiaeth Tubas

Llywodraethiaeth sy'n rhan o Awdurdod Palesteina

Llywodraethiaeth sy'n rhan o Awdurdod Palesteina neu Wladwriaeth Palestina yw Llywodraethiaeth Tubas (Arabeg محافظة طوباس, DMG Muḥāfaẓat Ṭūbās; Hebraeg: נפת טובאס‎,). Mae wedi'i leoli yng ngogledd y Lan Orllewinol ac yn un o 16 Llywodraethiaethau Palesteina. Prifddinas yr ardal neu Muhfaza (sedd) yw dinas Tubas.

Llywodraethiaeth Tubas
Enghraifft o'r canlynolllywodraethiaethau Palesteina Edit this on Wikidata
Label brodorolمحافظة طوباس Edit this on Wikidata
GwladBaner Palesteina Palesteina
Dechrau/Sefydlu1996 Edit this on Wikidata
Map
Enw brodorolمحافظة طوباس Edit this on Wikidata
GwladwriaethGwladwriaeth Palesteina Edit this on Wikidata
Rhanbarthy Lan Orllewinol Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.tubas.plo.ps/ar_new/index.php?p=home Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Llywodraethianau Awdurdod Palesteina, Tubas yn y gogledd ddwyrain; tiroedd gwyrdd yw 'Ardal A' h.y. o dan reolaeth AP
Llywodraethiaeth Tubas (gwyrdd)

Yn ôl Swyddfa Ystadegau Ganolog Palestina, roedd gan y llywodraethiaeth 60,927 o drigolion yng nghanol 2017. Erbyn 2020 cododd y nifer hon i 64,500 o drigolion.[1]

Sefyllfa Wleidyddol

golygu

Mae'r rhan fwyaf o'r Llyowdraethiant o dan reolaeth lawn Israel (Ardal C). Mae ardal fach yn ei rhan orllewinol, o amgylch tref Tubas, yn Ardal A (hy o dan reolaeth sifil a diogelwch Awdurdod Palesteina) ac mae sawl amgaead yn Ardal B, h.y. o dan gyfrifoldeb sifil Palesteina a rheolaeth ddiogelwch Israel.

Demograffeg

golygu

Mae'r boblogaeth yn ifanc iawn ar gyfartaledd ac mae tua 36.3 y cant yn iau na 15 oed, a dim ond 3.6 y cant sydd dros 65 oed. Yn 2017, roedd 99.9 y cant o'r boblogaeth yn Fwslim a 0.1 y cant yn Gristnogion neu fel arall. Ni chynhwyswyd preswylwyr aneddiadau Iddewig. Roedd 54.1 y cant o gyfanswm y boblogaeth yn Ffoaduriaid Palesteinaidd ffoaduriaid o ardaloedd eraill yn yr un flwyddyn.

Datblygiad y boblogaeth
Cyfrifiad Trigolionl[1]
1997 36.609
2007 50.261
2017 60.927

Lleoedd

golygu

Ceir 23 o weinyddiaethau, o wahanol faint, o fewn awdurdodaeth y Llywodraethiaeth.

Dinasoedd

golygu
Tubas

Bwrdeistrefi

golygu
'Aqqaba
Tammun

Cynghorau pentref

golygu
Bardala
Ein al-Beida
Kardala
Ras al-Far'a
Tayasir
Wadi al-Far'a

Clystyrau pentref

golygu
al-Bikai'a

Gwersylloedd ffoaduriaid

golygu
Far'a

Dolenni

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Balesteina. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato