Dinas ym Mhalesteina yw Tubas (Arabeg: طوباس‎; Tûbâs) a leolir yn y Lan Orllewinol i'r gogledd-ddwyrain o Nablus. ac i'r gorllewin o Ddyffryn yr Iorddonen. Mae'n ddinas â dros 63,000 o drigolion, sy'n ei gwneud tua'r un faint â Wrecsam, ac mae'n gwasanaethu fel canolfan economaidd a gweinyddol Llywodraethiaeth Tubas (sir Tubas). Mae ei ardal drefol yn cynnwys 227 hectar. Caiff ei lywodraethu gan gyngor trefol o 15 aelod ac mae'r mwyafrif o'i dinasyddion yn cael eu cyflogi mewn amaethyddiaeth neu wasanaethau cyhoeddus. Y maer yn y 2020au oedd Khalid Samir Abdel Razzek.

Tubas
Enghraifft o'r canlynoldinas Edit this on Wikidata
Label brodorolطوباس Edit this on Wikidata
Poblogaeth22,000 Edit this on Wikidata
GwladBaner Palesteina Palesteina
Map
Enw brodorolطوباس Edit this on Wikidata
GwladwriaethGwladwriaeth Palesteina Edit this on Wikidata
RhanbarthLlywodraethiaeth Tubas Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.tubas.ps/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Tref hynafol yw Tubas a elwid gynt yn Thebes, un o drefi Canaan - a thref enwog am wrthryfela yn erbyn y Brenin Abimelech. Yn ystod diwedd y 19g, yn ystod rheolaeth yr Otomaniaid ym Mhalesteina, daeth llwythi'r Arabiaid sy'n byw yn Nyffryn yr Iorddonen i fyw i Tubas, a daeth yn dref fawr yn Ardal Nablus, sy'n arbennig o adnabyddus am ei ben a'i gaws. Daeth o dan Fandad Prydain Palestina ym 1922, ac fe'i atodwyd gan Gwlad yr Iorddonen ar ôl iddynt gipio’r dref yn Rhyfel Arabiaid–Israeliaid 1948, ac yna ei meddiannu gan Israel ers Rhyfel Chwe Diwrnod 1967. Mae gan Awdurdod Cenedlaethol Palestina reolaeth ar Tubas ers i'r ddinas gael ei throsglwyddo i'w hawdurdodaeth ym 1995.

Cynhanes

golygu

Mae enw'r ddinas Tubas yn deillio o'r gair Canaaneaidd Tuba Syoys neu "seren lachar".[1] 

Mae olion archeolegol fel mynwentydd ac offer gwasgu ffrwyth yr olewydd yn dangos bod pobl wedi byw yn Tubas yn ystod oes goresgyniad y Rufeinig ym Mhalestina.[1] Soniodd Sierôm fod Thebez yn 13 milltir Rufeinig i'r dwyrain o Neapolis (Nablus). Heblaw am y stori Feiblaidd, ni wyddys unrhyw beth am Thebez cyn neu ar ôl y gwrthryfel.[2]

Yr Oes Otomanaidd

golygu

Yn 1596 ymddangosodd yng nghofrestrau treth yr Otomaniaid fel "Tubas". Roedd gan y dref boblogaeth o 41 o aelwydydd ac 16 gwr dibriod, pob un yn Fwslim. Talodd y pentrefwyr gyfradd dreth sefydlog o 33.3% ar wenith, haidd, cnydau haf, coed olewydd, refeniw achlysurol, geifr, cychod gwenyn, a gweisg yr olewydd neu rawnwin; cyfanswm o 11,704 akçe.[3]

Ar ddiwedd yr 19g yn ystod rheolaeth yr Otomaniaid ym Mhalestina, ymfudodd grwpiau o Arabiaid a oedd yn perthyn i lwyth Daraghmeh - bugeiliaid a ffermwyr yn bennaf a oedd yn byw yn Nyffryn yr Iorddonen i'r gogledd, oherwydd y tir ffrwythlon, ei agosrwydd at sawl nant neu fynnon, a'i uchel drychiad o'i gymharu â gwastadedd Dyffryn yr Iorddonen a Wadi al-Far'a.[1][4] Roedd y llwyth Daraghmeh wedi byw yn Nyffryn yr Iorddonen ers y 15g ac yn ychwanegol at Tubas, fe wnaethant drefedigaethu yn y pentrefi cyfagosː Kardala, al-Farisiya, Khirbet al-Malih, Kishda, Yarza, a Ras al-Far'a. Yn fuan ar ôl iddynt sefydlu yn Tubas, daeth Arabiaid o Najd, Syria, Transjordan, Hebron a Nablus gerllaw i ymgartrefu yn yr ardal.[1] Yn ystod y cyfnod hwn, daeth Tubas yn safle gwrthdaro rhwng teuluoedd 'Abd al-Hadi a Tuqan yn Nablus ac ymosododd y Bedowiniaid o ardaloedd i'r dwyrain o'r ddinas.[4] Nid oedd y teulu Jarrar yn byw yno, ond nhw oedd yn gweinyddu Tubas, gan ei fod wedi'i leoli o fewn nahiya ("isranbarth") Mashariq al-Jarrar.[5]

Roedd Tubas yn un o'r pentrefi mwyaf yn Rhanbarth Nablus ac roedd mwyafrif y trigolion yn byw mewn tai neu bebyll wedi'u hadeiladu o fwd er mwyn gweithio ar eu tiroedd pell yn Nyffryn Iorddonen ac i bori eu diadelloedd defaid a geifr.[6] Yn ôl y teithiwr Herbert Rix, o’i gymharu â threfi eraill o’i faint yn Samaria, roedd Tubas yn “llewyrchus” ac roedd ganddo doreth o bren sych yn barod ar gyfer coed tân.[7] Roedd tubas, yn wahanol i'r pentrefi yng ngweddill yr ardal, yn dibynnu ar dda byw ac nid olewydd am incwm. Roedd cynhyrchion da byw yn cynnwys caws, menyn wedi'i egluro, rygiau gwlân, pebyll, rhaffau, a bagiau brethyn.[8] Yn 1882 sefydlwyd ysgol bechgyn yn y dref.[9]

Nododd Cronfa Archwilio Palestina fod y Samariaid yn arfer credu bod beddrod Aser, a elwir yn lleol fel Nabi Tota ("y proffwyd da"), wedi'i leoli yn Tubas. Gwasanaethodd y beddrod fel cysegrfa yn nhraddodiad y Mwslimaidd lleol.[10]

Oes Mandad Prydain

golygu

Ym 1917, cipiodd Byddin Prydain wlad Palesteina a chwalwyd rheolaeth yr Otomaniaid. Ar ôl rheolaeth llym dan lywodraeth filwrol, cafodd ei ad-drefnu ym 1922 – 23 ac ymgorfforwyd Tubas o fewn Mandad (neu reolaeth) Prydain.

Yng nghyfrifiad 1922 o Palestina roedd gan Tubas boblogaeth o 3,449; 3,441 o Fwslimiaid [11] a 7 o Gristnogion Uniongred.[12] Yng nghyfrifiad 1931, roedd gan Tubas, (gan gynnwys Kashda a Jabagia) 773 o dai a phoblogaeth o 4,097, yn Fwslimiaid yn bennaf, a 29 o Gristnogion.[13]

Oes Gwlad yr Iorddonen

golygu

Yn sgil Rhyfel Arabiaid–Israeliaid 1948, ac ar ôl Cytundebau Cadoediad 1949, daeth Tubas o dan lywodraeth Gwlad Iorddonen.

Yn 1955 agorwyd yr ysgol gyntaf i ferched.[9]

Yn 1961, roedd y boblogaeth yn 5,709,[14] tra ym 1964, roedd gan Tubas boblogaeth o 5,880.[15]

Ôl-1967

golygu
 
Map y Cenhedloedd Unedig 2018 o'r ardal, yn dangos trefniadau meddiannaeth Israel.

Ers y Rhyfel Chwe Diwrnod ym 1967, mae Tubas wedi bod dan feddiant Israel.

Trosglwyddwyd Tubas i reolaeth Awdurdod Cenedlaethol Palestina (PNA) ym 1995 o dan y Cytundeb Dros Dro ar y Lan Orllewinol a Llain Gaza. Yn ystod cyfnodau Gwlad Iorddonen ac Israel, roedd y ddinas o dan weinyddiaeth Llywodraethiaeth Nablus, ond ym 1996, datganodd y PNA fod Tubas a'r ardal gyfagos yn ardal etholiadol, ac yn ddiweddarach, yn ardal weinyddol annibynnol - Llywodraethiaeth Tubas.

Nid yw Tubas wedi gweld cymaint o drais yn y gwrthdaro rhwng Israel a Phalestina â Nablus a Jenin gerllaw, ond digwyddodd nifer o ddigwyddiadau yn ystod yr Ail Intifada, a ddechreuodd yn 2000. Ym mis Ebrill 2002, lladdodd lluoedd Israel (IDF) chwe aelod gweithredol o Hamas yn y dref, gan gynnwys Ashraf Tamza Daraghmeh - prif gomander Hamas yn Tubas a'r ardal gyfagos.[16][17] Ar 31 Awst, 2002, taniodd hofrennydd Apache Israel bedair taflegryn Hellfire at gar sifiliaid, yr amheuir ei fod yn cario cadlywydd Brigadau Merthyron al-Aqsa lleol, a chartref cyfagos. Yn lle hynny, lladdwyd pump o sifiliaid, gan gynnwys dau o blant, dau yn eu harddegau ac actifydd Fatah 29 oed a gyhuddwyd o fod yn aelod o Frigadau al-Aqsa. Cyhoeddodd Gweinidog Amddiffyn Israel, Binyamin Ben-Eliezer, ddatganiad yn mynegi “edifeirwch” dros ladd sifiliaid. Disgrifiodd Ben-Eliezer y cyrch yn Tubas fel “camgymeriad”, ac addawodd y byddai’r fyddin yn ymchwilio i’r digwyddiad.

Daearyddiaeth

golygu
 
Lleoliad Tubas (wedi'i farcio mewn coch) yn y Lan Orllewinol

Mae Tubas wedi'i leoli yn y Lan Orllewinol ogleddol gyda drychiad o 362 metr (1,188 tr) uwch lefel y môr, ond mae'r rhan fwyaf o Lywodraethiaeth Tubas wedi'i leoli yn Nyffryn yr Iorddonen i'r de.[1] Mewn arolwg tir yn 1945 roedd gan Tubas ynghyd â maesdrefi Bardala a Kardala yn cynnwys 31,312 hectar, lle roedd 220,594 yn anheddiadau dynol a'r gweddill yn eiddo cyhoeddus.[18] Yn 2005 cyhoeddwyd fod yr arwynebedd yn cynnwys 29,512 hectar, gyda 2,271 ohonynt yn gartrefi a tua 150,000 yn cael eu defnyddio at ddibenion amaethyddol ac mae tua 180,000 wedi'i alltudio gan Israel ar gyfer canolfannau milwrol.[19]

Mae gandd y ddinas hinsawdd gymedrol; mae'r haf yn boeth ac yn sych, a'r gaeaf yn oer a gwlyb. Y tymheredd blynyddol ar gyfartaledd yw 21 °C (70 °F) , a'r gyfradd lleithder flynyddol ar gyfartaledd yw 56%.[1]

Addysg

golygu

Yn 2004–05, roedd gan Tubas ddeuddeg ysgol; pedwar ar gyfer dynion, tri ar gyfer menywod a phump yn gymysg.; cyflogwyd 4,924 o fyfyrwyr a 191 o athrawon. Yn ogystal, mae chwe meithrinfa wedi'u lleoli yn y ddinas, ac mae ganddyn nhw gyfanswm o 620 o ddisgyblion ifanc. Yn 1997, y gyfradd llythrennedd oedd 86%; roedd menywod yn cynnwys 78.3% o'r boblogaeth anllythrennog. O'r boblogaeth lythrennog, cwblhaodd 25.7% addysg elfennol, cwblhaodd 23.3% addysg baratoadol a chwblhaodd 22.1% addysg uwchradd neu uwch.[1] Mae llawer o fyfyrwyr ledled Dyffryn yr Iorddonen yn derbyn eu haddysg yn Tubas.[9] Mae gan Brifysgol Agored Al-Quds sydd wedi'i lleoli yn Jeriwsalem, gampws yn Tubas o'r enw Rhanbarth Addysgol Al-Quds Open University-Tubas. Yn 2006, cofrestrwyd 1,789 o fyfyrwyr yn y brifysgol, roedd ganddi 90 o athrawon a 24 o weithwyr eraill.

Mosgau ac eglwysi

golygu

Mae Tubas yn cynnwys chwe mosg. Y prif fosgiau yw Mosg Abd ar-Rahan, Mosg al-Tawled, Mosg Umar ibn al-Khattab, a Mosg Shaheed.[1] Mae Eglwys Uniongred y Drindod Sanctaidd hefyd wedi'i lleoli yn Tubas, yn rhan ogleddol y ddinas. Adeiladwyd yr eglwys ym 1976 i wasanaethu'r gymuned Gristnogol Uniongred fach a cheir ynddi ystafell weddi, neuadd gymrodoriaeth, swyddfa, a llyfrgell i blant.[20] Ceir hen balas, sy'n eiddo i deulu Sawafta yn Tubas hefyd.[1]

Gweinyddu

golygu

Gan mai Tubas yw prifddinas (a dinas fwyaf) Llywodraethiaeth Tubas, mae'n gweithredu fel prif ddarparwr gwasanaethau trefi a phentrefi'r llywodraethiaeth. Ynddi hi mae holl swyddfeydd Awdurdod Cenedlaethol Palestina sy'n gwasanaethu'r llywodraethiaeth wedi'u lleoli yn y ddinas. Mae 21 o sefydliadau'r llywodraeth yn Tubas, gan gynnwys swyddfa bost, swyddfa Weinyddiaeth Lafur Palestina, swyddfa Gweinyddiaeth Amaeth Palestina, swyddfa Gweinyddiaeth Materion Cymdeithasol Palestina, yr adran dân a gorsaf heddlu.[1]

Cludiant

golygu

Bysiau a thacsis yw'r prif ddull o deithio yn Tubas. Cyfanswm hyd y ffyrdd palmantog yw 10,000 metr a cheir 10,000 metr o ffyrdd gyda phalmant hefyd a 25,000 o ffyrdd heb wyneb caled.

Mae Tubas wedi ei leoli ar Briffordd 588 wedi'i gysylltu â phrif ffordd Ramallah-Nablus (Priffordd 60) gan rwydwaith o gyrchfannau gogledd-ddwyreiniol y ffordd, sy'n mynd trwy bentrefi Azmut, al-Badhan a Ras al-Far'a. Mae wedi'i gysylltu â Jenin drwy ffordd ogleddol sy'n mynd trwy 'Aqqaba, Zababdeh ac yn olaf i Jenin.[1] Mae'n eitha hawdd teithio i Wlad yr Iorddonen trwy Briffordd 57 sydd wedi'i chysylltu â Phriffordd 588 ychydig i'r de o Tubas.[21]

Gofal Iechyd

golygu

Mae'r ddinas yn cynnwys pum canolfan iechyd sy'n cael eu rhedeg gan amrywiol sefydliadau gan gynnwys Cilgant Coch Palestina. Nid oes ysbytai yn Tubas, nac yn Llywodraethiaeth Tubas; rhaid i breswylwyr deithio i Nablus i gael triniaeth ysbyty, ond mae yma ddau ambiwlans yn Tubas ar gyfer cludo mewn argyfwng. Mae pedwar clinig yn y ddinas, gyda dau yn cael eu rhedeg gan sefydliadau anllywodraethol, un gan Awdurdod Cenedlaethol Palestina ac un yn eiddo preifat. Fodd bynnag, nid oes gan y clinigau offer ac arbenigwyr modern. Yn ogystal, ceir deg fferyllfa yn Tubas.[1]

Gweler hefyd

golygu
  • Rhestr o ddinasoedd a weinyddir gan Awdurdod Cenedlaethol Palestina

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.00 1.01 1.02 1.03 1.04 1.05 1.06 1.07 1.08 1.09 1.10 1.11 Tubas City Profile Applied Research Institute - Jerusalem.
  2. Bromiley, 1995, p. 825
  3. Hütteroth and Abdulfattah, 1977, p. 125.
  4. 4.0 4.1 Finn, 1867/1877, pp. 92–93
  5. Doumani, 1995, p.
  6. Doumani, 1995, Notes
  7. Rix, 1907, pp. 157-159
  8. Doumani, 1995, The Hinterland of Nablus
  9. 9.0 9.1 9.2 Irving, 2012, p. 236.
  10. Conder, 1881, p. 201
  11. Barron, 1923, Table IX, Sub-district of Nablus, p. 24
  12. Barron, 1923, p. 47
  13. Mills, 1932, p. 65
  14. Government of Jordan, 1964, p. 13
  15. Stendel, Ori. (1968).
  16. Yesterday's Strike on a Terror Squad in Tubas Israeli Ministry of Foreign Affairs. 2002-04-06.
  17. "Palestinians who were the object of a targeted killing in the West Bank". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-02-23. Cyrchwyd 2009-12-04.
  18. Government of Palestine, Department of Statistics.
  19. Tubas City Fact Sheet Applied Research Institute - Jerusalem.
  20. al-Mashni, Osama.
  21. Satellite view of Tubas

Llyfryddiaeth

golygu

Dolenni allanol

golygu