Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol
Mae Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AOHNE) yn cael eu dynodi gan Gyfoeth Naturiol Cymru (cynt: Cyngor Cefn Gwlad Cymru) ar ran Llywodraeth Cymru. Yng Nghymru, mae yna bum Ardal o Harddwch Naturol Eithriadol:
- Arfordir Môn
- Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
- Penrhyn Gŵyr
- Penrhyn Llŷn
- Dyffryn Gwy
Enghraifft o'r canlynol | dynodiad o ran cadwraeth, math o ddynodiad |
---|---|
Math | ardal gadwriaethol, treftadaeth naturiol |
Gweithredwr | Natural England, Cyfoeth Naturiol Cymru, Northern Ireland Environment Agency |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Penrhyn Gŵyr oedd yr ardal gyntaf i gael ei phenodi'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yng Nghymru. Mae’r rhain wedi’u neilltuo oherwydd eu harddwch naturiol eithriadol ond yn wahanol i’r Parciau Cenedlaethol, nid yw hamdden yn un o'r rhesymau dros eu neilltuo hwn.
Ceir 14 Arfordir Treftadaeth yng Nghymru hefyd sy'n cynnwys dros 40% o arfordir Cymru. Nid oes unrhyw sail statudol iddyn nhw ond mae’r sustem gynllunio’n eu cydnabod yn swyddogol.
Lloegr
golygu- Arfordir Gogledd Dyfnaint
- Arfordir Norfolk
- Arfordir Northumberland
- Arfordir Solway
- Arfordir Suffolk
- Arnside a Silverdale
- Blackdown Hills
- Bryniau Chiltern
- Bryniau Malvern
- Bryniau Mendip
- Bryniau Quantock
- Bryniau Surrey
- Bryniau Swydd Amwythig
- Cannock Chase
- Cernyw
- Cotswolds
- Cranborne Chase a Gorllewin Wiltshire Downs
- Chichester Harbour
- De Dyfnaint
- Dedham Vale
- Dorset
- Dwyrain Dyfnaint
- Dyffryn Tamar
- Dyffryn Wy (rhanol yng Nghymru)
- Forest of Bowland
- Gogledd Pennines
- Howardian Hills
- Lincolnshire Wolds
- Nidderdale
- Rhostir Caint
- Rhostir Gogledd Wessex
- Weald Uchel
- Ynys Wyth
- Ynysoedd Syllan
Gogledd Iwerddon
golyguYr Alban
golyguNid ydyw Deddf 1949 ddim yn ymestyn i'r Alban; yn hytrach, mae gan y genedl "Ardal Deniadol, Cenedlaethol" (Saesneg: National Scenic Area).