Locomotif Beyer Garratt

Dyfeisiwyd y locomotif Beyer Garratt gan Herbert William Garratt, peiriannydd i lywodraeth De Cymru Newydd ym 1907, ac aeth o i Gwmni Beyer Peacock efo'r syniad. Oherwydd ei waith tramor, ac ei farwolaeth ym 1913, gwnaethpwyd mwyafrif y gwaith datblygu gan gwmni Beyer Peacock[1].

Locomotif Beyer Garratt
Mathlocomotif stêm, locomotif cymalog Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Rhif 143, Rheilffordd Eryri
Locomotif Beyer Garratt yn Amgueddfa Ipswich, Queensland
Locomotif Beyer Garratt ar Reilffordd Eryri
Locomotif Beyer Garratt yng Ngorsaf reilffordd Caernarfon
Locomotif Beyer Garratt yn Amgueddfa Mount Barker, De Awstralia
Beyer Garratt ar reilffordd fechan yn Nhasmania

Fel locomotifau cymalog eraill, mae'r Beyer Garratt yn caniatáu lledu pwysau'r locomotif dros llawer o olwynion. Maen nhw wedi bod yn ddefnyddiol ar reilffyrdd ysgafn. Roedd gan y locomifau'r gallu o gario llawer o ddŵr, sydd yn ddefnyddiol yn ardaloedd poeth a sych, megis rhannau Affrica. Cariwyd y boeler rhwng 2 uned pŵer. Yn annhebyg i gynlluniau cymalog eraill, megis y Locomotif Fairlie a Locomotif Mallet, deodd yno ddim olwynion i gyfyngu maint y boeler a blwch tân, felly roedd hi'n bosibl creu locomotif pŵerus iawn

Cafodd locomotifau dosbarth 59 y Rheilffyrdd Dwyrain Affrica boeler efo tryfesur 7 troedfedd a hanner, yn llawer mwy 'na locomotifau ar reilffyrdd lled safonol yng ngwledydd Prydain. Weithiau cynhaliwyd tân efo peirianwaith mecanyddol neu defnyddiwyd olew. Defnyddiwyd dau neu dro dyn tân ar locomotif dosbarth P y Rheilffordd Bengal-Nagpur. Ar Reilffordd Benguela, llosgwyd coed, ac roedd angen 4 dyn tân.[1]

Hanes cynnar

golygu

Archebwyd y 2 Beyer Garratt cyntaf ym 1909 gan lywodraeth Tasmania ar gyfer ei rheilffyrd maint 2 droedfedd. Daeth un ohonynt yn ôl i Ffowndri Gorton ar ôl yr Ail Rhyfel Byd a gwerthwyd yr injan i Reilffordd Ffestiniog ar ôl i'r ffowndri wedi cau.

Adeiladwyd yr un nesaf ar gyfer [[Rheilffordd Darjeeling Himalaya a gweithiodd yno hyd at 1953. Erbyn 1914 prynasid locomotifau gan Gorllewin Awstralia a rheilffyrdd Mogyana a San Paolo yn Brasil.

Newidodd gwaith y ffowndri i gynhyrchiant arfau yn ystod Y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ym 1920, adeiladwyd 3 math o locomotif Garratt ar gyfer leiniau 2 droedfedd Rheilffordd De Affrica.[1].

Locomotifau nodedig

golygu

Y locomotif stêm mwyaf yn Ewrop erioedd oedd Beyer Garratt 4-8-2 +2-8-4 adeiladwyd i Rheilffordd Rwsia ym 1932, yn pwyso 262.5 o dunelli.

Adeiladwyd Dosbarth GL ar gyfer Rheilffordd De Affrica lled 3 troedfedd a hanner, yr un mwyaf pwerus yn y byd ar gledrau cul.

Y locomotif mwyaf pwerus yng ngwledydd Prydain oedd y Beyer Garratt 2-8-0 + 0-8-2 adeiladwyd ar gyfer Rheilffordd Llundain a Gogledd Ddwyrain. Adeiladwyd 33 o locomotifau 2-6-0 + 0-6-2 ar gyfer Rheilffordd Llundain, Canolbarth ac yr Alban.

Adeiladwyd y Garratts olaf erioed ar gyfer Cwmni Tsumeb ym 1958, ond ar ôl i'r gwmni newid lled ei draciau, aeth y locomotifau i Reilffyrdd De Affrica ar gyfer eu draciau lled 2 droedfedd [1]..

Rheilffordd Eryri

golygu

Mae gan Rheilffordd Eryri 5 locomotif dosbarth NGG 2-6-2 + 2-6-2, adeiladwyd ar gyfer rheilffyrdd yn Ne Affrica. Roedd sawl lein o led 2 droedfedd wedi cau, felly cytunwyd basai Rheilffordd Swydd Alfred yn atgyweirio a chyflenwi'r locomotifau. Roedd un ohonynt, rhif 143, yr un olaf adeiladwyd gan gwmni Beyer Peacock.[2].

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 "Tudalen Beyer Garratt ar wefan beyerpeacock". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-31. Cyrchwyd 2015-05-14.
  2. Tudalen Beyer Garratt ar wefan Cymdeithas Rheilffordd Eryri

Llyfryddiaeth

golygu
  • Richard L. Hills, The Origins of the Garratt Locomotive (Gwasg Plateway)