Cwmni Beyer Peacock
Gwneuthurwr locomotifau oedd Cwmni Beyer Peacock a ffurfiwyd gan Charles Frederick Beyer a Richard Peacock ym 1853. Cynlluninwyd eu gweithdy, Ffowndri Gorton ym Manceinion gan Beyer, lle adeiladodd lawer o'r peiriannau. Gwnaed y cwmni'n gwmni cyfyngedig yn 1902 a daeth i ben ym 1966.[1]
Enghraifft o'r canlynol | busnes |
---|---|
Daeth i ben | 1966 |
Dechrau/Sefydlu | 1854 |
Sylfaenydd | Charles Beyer, Richard Peacock |
Isgwmni/au | Bowesfield Works, Richard Garrett & Sons |
Cynnyrch | locomotif, Beyer Peacock works no. 1583, Beyer Peacock works no. 1584, Isle of Wight Central Railway no. 8, Beyer Peacock works no. 2231, Isle of Wight Railway “Ryde”, Isle of Wight Railway “Sandown”, Beyer Peacock 2-4-0T works no. 402, Isle of Wight Railway “Shanklin”, Beyer Peacock 2-4-0T works no. 404, Beyer Peacock works no. 205 |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | http://beyerpeacock.co.uk |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Locomotifau
golyguCwblhawyd ei locomotif cyntaf – un o wyth locomotif 2-2-2 ar gyfer Rheilffordd y Great Western yn ôl cynllun Daniel Gooch, arolygydd locomotifau cyntaf y rheilffordd, ar 21 Gorffennaf 1855, yn costio £2,660. Roedd gan y cwmni berthynas agos efo Charles Beattie, arolygydd locomotifau'r Rheilffordd Llundain a'r De Orllewin.[1]
Y Beyer Garratt
golyguDyfeisiwyd y Locomotif Beyer Garratt gan Herbert William Garratt, peiriannydd i lywodraeth De Cymru Newydd ym 1907, ac aeth at y cwmni efo'i syniad. Oherwydd ei waith tramor, a'i farwolaeth ym 1913, gwnaethpwyd y mwyafrif o'r gwaith datblygu gan gwmni Beyer Peacock.
Rheilffordd y Trallwng a Llanfair
golyguAdeiladwyd dau locomotif gwreiddiol y rheilffordd, 'Earl' a 'Countess' gan Beyer Peacock, ac maent yn dal i weithio hyd heddiw.[2]
Rheilffordd Eryri
golyguMae gan Rheilffordd Eryri bum locomotif Beyer Garratt dosbarth NGG 2-6-2 + 2-6-2, a adeiladwyd ar gyfer rheilffyrdd yn Ne Affrica. Roedd sawl lein o led 2 droedfedd wedi cau, felly cytunwyd y byddai Rheilffordd Swydd Alfred yn atgyweirio a chyflenwi'r locomotifau. Un ohonynt, rhif 143, oedd yr un olaf a adeiladwyd gan gwmni Beyer Peacock.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Tudalen hanes ar wefan beyerpeacock". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2015-05-15.
- ↑ "Gwefan Rheilffordd y Trallwng a Llanfair". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-15. Cyrchwyd 2015-07-30.
- ↑ Tudalen Beyer Garratt ar wefan Cymdeithas Rheilffordd Eryri
Llyfryddiaeth
golygu- A Short History of Beyer, Peacock gan Richard L. Hills
- The Origins of the Garratt Locomotive gan Richard L. Hills (Gwasg Plateway)
Dolen allanol
golygu- Gwefan Beyer Peacock Archifwyd 2015-09-29 yn y Peiriant Wayback