Locomotif Dosbarth 27 Rheilffordd Swydd Gaerhirfryn a Swydd Efrog

Mae Dosbarth 27 Rheilffordd Swydd Gaerhirfryn a Swydd Efrog yn ddosbarth o locomotifau stêm 0-6-0 cynllunio ar gyfer y Rheilffordd Swydd Gaerhirfryn a Swydd Efrog gan John Aspinall i dynnu trenau nwyddau. Adeiladwyd 484 ohonynt rhwng 1889 a 1918 yng Ngwaith Horwich. Roedd gan y locomotifau 2 silindr a gêr falf Joy.

12232 ar Reilffordd Dwyrain Swydd Gaerhirfryn

Tra-phoethi

golygu

Roedd arbrofion gan Hughes ynglŷn â thra-phoethi, y proses o godi temheredd y stêm yn y boeler i osgoi colled ynni. Ar ôl misoedd o dreialon adeiladwyd 20 locomotif yng Ngwaith Horwich o 1909 ymlaen. Adeiladwyd 20 arall ym 1912, gyda bocs tân Belpaire.

Gweithio

golygu

Aeth 300 ohonynt i berchnogaeth [[Rheilffordd Llundain, y Canolbarth a’r Alban a 235 i Reilffordd Brydeinig ym 1948; lle cawsant y rhifau 52088-52529[1] a goroesodd tua 50 hyd at 1960. Gweithiodd 32 o’r dosbarth dros yr Adran Gweithredu Rheilffordd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a daethant i gyd yn ôl wedi’r rhyfel.[2]

Cadwraeth

golygu

Mae un locomotif yn goroesi, rhif 1300 (yn hwyrach 12322 a 52322), ar Reilffordd Stêm Ribble, sydd ar fenthyg i Reilffordd Dwyrain Swydd Gaerhirfryn.

Dosbarth 28

golygu

Ailgynlluniwyd Dosbarth 27 gan George Hughes, gyda’r enw Dosbarth 28.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Ian Allan ABC of British Railways Locomotives, 1948 edition, part 3, pp 42-43
  2. Martian, Greg. "Railway Operating Department (ROD) Pre-Grouping Steam Locomotives Used Overseas". Rail Album. Cyrchwyd 10 Rhagfyr 2020.

Dolenni allanol

golygu