Locomotif Dosbarth 2884 GWR
Mae Dosbarth 2884 GWR yn ddosbarth o locomotifau stêm 2-8-0 ar Reilffordd y Great Western cynlluniwyd gan Charles Collett ar gyfer trenau trymion nwyddau. Roeddent yn ddatblygiad o ddosbarth 2800, cynlluniwyd gan Churchward. Adeiladwyd 83 ohonynt rhwng 1938 a 1941. Roeddent yn boblogaidd iawn efo’u gyrwyr, a goroesasant hyd at ddiwedd stêm yn y 60au.
Math o gyfrwng | dosbarth o locomotifau |
---|---|
Math | locomotif stêm â thendar |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Rhagflaenwyd gan | GWR 2800 Class |
Lled y cledrau | 1435 mm |
Gweithredwr | Rheilffordd y Great Western, Western Region of British Railways |
Gwneuthurwr | Swindon Works |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Anfonwyd nifer ohonynt at Iard Sgrap Dai Woodham ac o’r fan yno i reilffyrdd treftadaeth, gan gynnwys un i Reilffordd Llangollen.[1]