Logos
Gair Groeg sy'n golygu 'gair' neu 'rheswm' yw Logos (λόγος). Yn athroniaeth Groegiaid yr Henfyd roedd yn gallu golygu 'prif symudydd' y bydysawd, yn ogystal. Yn ôl Heraclitus (fl. 500 CC) er enghraifft y Logos yw'r grym sy'n creu, cynnal a dinistrio'r bydysawd.
Yn y traddodiad Cristnogol y Logos (sef 'Y Gair') yw ail Berson Y Drindod, Mab Duw, sef y Gair ymgnawdoledig. Mae'r Logos, yn yr ystyr 'Gair Duw', yn golygu'r Ysgrythur Sanctaidd, sef yr Hen Destament a'r Testament Newydd, am eu bod yn weithiau a greuwyd dan ysbrydoliaeth yr Ysbryd Glân.