Loch Deirgeirt
(Ailgyfeiriad o Lough Derg)
Llyn yng Ngweriniaeth Iwerddon yw Loch Deirgeirt (Saesneg: Lough Derg). Ef yw'r ail-fwyaf o lynnoedd y Weriniaeth, a'r trydydd llyn o ran maint ar ynys Iwerddon. Saif ar Afon Shannon, a rhennir ei arfordir rhwng gogledd Swydd Tipperary, Swydd Galway a Swydd Clare.
Math | llyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Gweriniaeth Iwerddon |
Arwynebedd | 118 km² |
Uwch y môr | 0 metr |
Cyfesurynnau | 52.98°N 8.32°W |
Dalgylch | 10,280 cilometr sgwâr |
Mae'r llyn yn 36 medr o ddyfnder yn ei fan dyfnaf, ac mae ganddo arwynebedd o 118 km² (45.5 milltir sgwar).