Louis yr Almaenwr
Roedd Louis yr Almaenwr (806 — 28 Medi 876) yn fab i Louis Dduwiol, ymerawdwr Ymerodraeth y Ffranciaid, a'i wraig Ermengarde o Haspengouw. Fel Louis II roedd yn frenin Ffrancia Ddwyreiniol (yr Almaen yn ddiweddarach), ac yn nes ymlaen yn frenin Lotharingen fel Louis I.
Louis yr Almaenwr | |
---|---|
Ganwyd | c. 806 |
Bu farw | 28 Awst 876 Frankfurt am Main |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth y Carolingiaid |
Galwedigaeth | teyrn |
Swydd | king of East Francia |
Tad | Louis Dduwiol |
Mam | Ermengarde of Hesbaye |
Priod | Hemma |
Plant | Carloman of Bavaria, Irmgard of Chiemsee, Louis III the Younger, Siarl Dew, Bertha, Hildegard, Gisela, Verona of Leefdaal, Veronus of Lembeek |
Llinach | Y Carolingiaid |
Bu farw Louis Dduwiol yn 840 a cheisiodd ei fab hynaf Lothair ddod yn ymeradwr dros deyrnas ei dad. Roedd dau arall o feibion Louis yn fyw, Louis yr Almaenwr a Siarl Foel, a gwnaethant gynghrair i wrthwynebu Lothair, gan ei orchfygu ym mrwydr Fontenoy-en-Puisaye yn 841. Yn 843, cytunodd y tri brawd ar Gytundeb Verdun, oedd yn rhannu'r ymerodraeth, gyda Siarl Foel yn derbyn Ffrancia Orllewinol (a ddaeth yn deyrnas Ffrainc yn ddiweddarach), Lothair I, oedd yn cael y teitl o ymerawdwr, yn derbyn Ffrancia Ganol (a enwyd yn Lotharingia) a Louis yr Almaenwr yn derbyn Ffrancia Ddwyreiniol.
Priododd yn 827 ag Emma, a chawsant nifer o blant:
- Karloman
- Louis yr Ieuengaf
- Siarl Dew
- Hildegard
- Irmengard
- Gisela