Siarl Foel

Ymerawdwr Glân Rhufeinig o 875 hyd 877

Roedd Siarl Foel neu Siarl II (Ffrangeg: Charles le Chauve, Almaeneg: Karl der Kahle; 13 Mehefin 823 - 5 neu 6 Hydref, 877), yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig o 875 hyd 877 ac yn frenin Ffrancia Orllewinol rhwng 840 a 877).

Siarl Foel
Ganwyd13 Mehefin 823 Edit this on Wikidata
Frankfurt am Main Edit this on Wikidata
Bu farw6 Hydref 877 Edit this on Wikidata
Avrieux Edit this on Wikidata
DinasyddiaethWest Francia Edit this on Wikidata
Galwedigaethteyrn, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Swyddbrenin Gorllewin Francia, Ymerawdwr Glân Rhufeinig Edit this on Wikidata
TadLouis Dduwiol Edit this on Wikidata
MamJudith of Bavaria Edit this on Wikidata
PriodErmentrude of Orléans, Richilde of Provence Edit this on Wikidata
PlantJudith of Flanders, Louis the Stammerer, Charles the Child, Carloman, Lothar the Lame, Rothilde, Ermentrude, Hildegard, Gisela, Rotrude, Drogo, Pippin, Charles Edit this on Wikidata
LlinachY Carolingiaid Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Siarl oedd mab ieuengaf yr Ymerawdwr Louis Dduwiol a'i ail wraig, Judith. Ganed ef Frankfurt, pan oedd ei frodyr eisoes yn oedolion ac wedi cael teyrnasoedd i'w rheoli gan eu tad. Ceisiodd ei dad gael teyrnas i Siarl hefyd, ond methiant fu ei ymdrechion. Cred rhai mai dyma sut y cafodd Siarl yr enw "Siarl Foel", am nad oedd ganddo deyrnas yn hytrach nag am nad oedd ganddo wallt. Ymhen amser cafodd deyrnas yn Aquitaine a'r Eidal.

Pan fu farw Louis yn 840 bu rhyfel rhwng ei feibion. Gwnaeth Siarl gynghrair gyda'i frawd Louis yr Almaenwr yn erbyn Lothair I. Gorchfygasant Lothair yn 841, ac yn Awst 843 gwnaed Cytundeb Verdun i ddiweddu'r ymryson. Cafodd Siarl deyrnas Ffrancia Orllewinol, yn cyfateb yn fras i Ffrainc fodern. Yn 858, ymosododd Louis yr Almaenwr arno, a bu raid iddo ffoi i Fwrgwyn am gyfnod. Cafodd ei orchfygu gan Nevenoe, a gyhoeddodd ei hun yn frenin Llydaw, yn 845 a chan Erispoe, mab Nevenoe, yn 851. Bu hefyd yn ymladd yn fynych yn erbyn y Llychlynwyr.

Yn 875, wedi marwolaeth Louis II (mab ei frawd Lothair), daeth Siarl yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig. Bu farw wrth ddychwelyd i Ffrainc o'r Eidal dros fwlch Mont Cenis ger Brides-les-Bain, ar y 5ed neu'r 6ed o Hydref 877. Dilynwyd ef gan ei fab Louis.

Rhagflaenydd:
Louis II
Ymerawdwr Glân Rhufeinig
875877
Olynydd:
Siarl III (Siarl Dew)

Cyfeiriadau golygu